Adeiladwyd yr orsaf ym 1879 gan Reilffordd Caledonian efo 8 platfform.[1] Agorwyd 9fed platfform ym 1890. Erbyn 1905, roedd 13 ohonynt.[2] Mae'r orsaf yn cynnwys pont efo waliau gwydr o'r enw Heilanman's Umbrella ("Ambarêl yr Ucheldirwr").
Mae orsaf lefel isel o dan y brif orsaf, adeiladwyd gan Reilffordd Glasgow Canolog; roedd ganddi 4 platform. Caewyd orsaf lefel isel ym 1964, ac wedyn ailagorwyd yr orsaf efo 2 blatfform yn unig. Mae un arall wedi cael ei hail-adeiladu fel arddangosfa hanesyddol ar gyfer teithiau tywys o’r orsaf.
[3]