Mae Gorsaf reilffordd Gilfach Ddu yn orsaf ar Reilffordd Llyn Padarn yn ymyl Llanberis, Gwynedd. Mae gan yr orsaf gaffi a siop. Mae’r Amgueddfa Llechi, Llyn Padarn a Chwarel Dinorwig gerllaw.[1]
Agorwyd y rheilffordd yn rhannol ar 28 Mai 1971 rhwng Gilfach Ddu a Gorsaf reilffordd Cei Llydan. Estynnwyd y lein i’r gogledd i Penllyn ym 1972 ac estynnwyd y lein o Gilfach Ddu i Lanberis yn 2003..[1]