Mae’r orsaf ar gylch canolog system Metro Melbourne, felly mae hi’n gwasanaethu pob un o linellau’r Metro.[2] Mae hi hefyd ar gylch canolog rhwydwaith Tramiau Yarra.
Hanes
Yr orsaf wreiddiol ar y safle oedd gorsaf reilffordd Batman’s Hill. Newidiwyd enw’r orsaf i Heol Spencer. Dechreuodd gwasanaethau i drenau ym 1859 gyda un platfform. Ycchwanegwyd un arall ym1874. Gosodwyd un trac ar gyfer trenau nwyddau rhwng Heol Spencer a Gorsaf reilffordd Stryd Flinders ym 1879. Ychwanegwyd platfform arall erbyn 1880. Adeiladwyd cysylltiad newydd rhwng y 2 orsaf ym 1891, a dechreuodd trenau i deithwyr rhyngddynt ym 1894. Ychwanegwyd 4 platfform arall rhwng 1918 a 1924. Creuwyd prif adeilad newydd ym 1960, ac adeiladwyd prif blatfform newydd, 413 medr o hyd ar gyfer gwasanaeth newydd ar draciau lled safonol i Sydney. Ail-adeiladwyd ac ail-enwyd yr orsaf Southern Cross yn 2006[3]