Mae Gorsaf reilffordd Chapelton yn gwasanaethu Chapelton, ym mhlwyf Tawstock yn Swydd Dyfnaint. Mae’r orsaf ar Linell Tarka, rhwng Caerwysg a Barnstaple.
Agorwyd Rheilffordd Gogledd Dyfnaint ar 1af Awst 1854. Roedd gorsaf ddros dro yno rhwng 1857 a 1860[1]. Agorwyd yr orsaf bresennol ar 1af Mawrth 1875.[2]
Mae 2 drên i’r De a 2 i’r gogledd yn stopio ar gais bob dydd, a 4 ar Suliau.