Yn wreiddiol, roedd gorsaf reilffordd Berwyn yn orsaf ar Reilffordd Llangollen a Chorwen, sydd wedi agor ar 8 Mai 1865. Caewyd y lein i deithwyr ar 18 Ionawr 1965. Ailagorwyd yr orsaf yn rhan o Reilffordd Llangollen ym Mawrth 1986. Mae'r orsaf yn sefyll ar lannau Afon Dyfrdwy, tua milltir i'r gorllewin o Langollen ac mae'r rheilffordd yn llogi hen tŷ'r orsaf i ymwelwyr.