Mae Gorsaf reilffordd Arley yn orsaf ar Rheilffordd Dyffryn Hafren.
Agorwyd yr orsaf pan agorwyd y rheilffordd wreiddiol ym 1862. Roedd yr adeiladau gwreiddiol yn cynnwys tŷ’r gorsaf-feistr, swyddfa tocynnau ac ystafell aros. Ychwanegyd ystafell aros i ferched yn ddiweddarach. Defnyddiwyd brics llwydfelen, gyda to llechi Cymreig.
Ychwanegwyd cysgodfa aros ar y platfform arall a chaban signal yn ysod yr 1880au. Dinistriwyd y caban gwreiddiol pan gaewyd y rheilffordd ym 1964. Mae’r caban presennol yn dod o orsaf reilffordd Yorton, rhwng Cryw ac Amwythig.[1]