Lleolir Gorsaf Reilffordd Mobile ar Stryd Beauregard ym Mobile. Adeiladwyd yr orsaf, efallai'r adeilad mwyaf nodedig yn nhalaith Alabama, ym 1907 yn arddull Adfywiad Sbaeneg. Fe'i defnyddiwyd fel gorsaf hyd at y 1950au, ac wedyn daeth yn swyddfeydd. Ar ôl cyfnod yn dadfeilio, cafodd ei hatgyweirio yn 2003, ar gost o 18 miliwn o ddoleri. Cyngor y ddinas yw perchennog yr adeilad.