Awdurdod unedol gyda statws bwrdeistref yn sir seremonïol Swydd Gaer , Gogledd-orllewin Lloegr , yw Gorllewin Swydd Gaer a Chaer (Saesneg: Cheshire West and Chester ).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 917 km² , gyda 343,071 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[ 1] Mae'n ffinio Glannau Merswy , Bwrdeistref Halton a Bwrdeistref Warrington i'r gogledd, Dwyrain Swydd Gaer i'r dwyrain, Swydd Amwythig i'r de, a Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Sir y Fflint i'r gorllewin.
Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn Swydd Gaer
Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 2009. Disodlodd yr hen ardaloedd an-fetropolitan Bwrdeistref Ellesmere Port a Neston , Bwrdeistref Vale Royal a Dinas Caer a ddaeth i gyd o dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Gaer, a ddiddymwyd ar yr un dyddiad.
Rhennir Gorllewin Swydd Gaer a Chaer yn 114 o blwyfi sifil, yn ogystal â dwy ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Ellesmere Port a dinas Caer . Mae aneddiadau eraill yn y fwrdeistref yn cynnwys trefi Frodsham , Neston , Northwich a Winsford .
Cyfeiriadau