Ffilm gomedi-drama Americanaidd o 1987 sydd wedi ei lleoli yn Saigon ydy Good Morning, Vietnam. Seiliwyd y ffilm ar yrfa Adrian Cronauer (Robin Williams), cyflwynydd radio ar Gwasanaeth Radio y Lluoedd Arfog, sy'n hynod boblogaidd gyda'r lluoedd a oedd yn Ne Fietnam ond sy'n digio ei reolwyr am ei "dueddiad di-barch". Ysgrifennwyd y ffilm gan Mitch Markowitz a chafodd ei chyfarwyddo gan Barry Levinson.