Gliniadur |
Enghraifft o: | computer form factor, classes of computers, dyfais |
---|
Math | cyfrifiadur personol, mobile computer, portable computer, consumer electronics |
---|
Cysylltir gyda | docking station |
---|
Dechrau/Sefydlu | 1980s |
---|
Yn cynnwys | storio data, bysellfwrdd, computer monitor, Batri, motherboard, random-access memory, network card, laptop hinge |
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Microgyfrifiadur cludadwy y mae ei brif gydrannau (fel prosesydd, bysellfwrdd a sgrin arddangos) wedi'u hintegreiddio yn un uned sy'n gallu gweithio ar fatri yw gliniadur. Mae'n ddigon bach i'w gario o dan un fraich (tua 1-4 km) ond yn ddigon mawr i gynnwys sgrin (tua 12-17 modfedd) a bysellfwrdd. Termau eraill amdano yw: cyfrifiadur côl a sgrin-ar-lin. Fel arfer maent yn cael eu pweru gan fatri mewnol sy'n para tua 2-4 awr ar y tro.
O reidrwydd roedd cyfrifiaduron yn tueddu i fod yn llai o ran maint ac yn llai o ran pŵer na chyfrifiaduron bwrdd gwaith. Yn 2000 gellid dweud, yn bendant, fod y cyfrifiadur bwrdd gwaith yn llawer cryfach na'r gliniadur, ond yn 2008 fe werthwyd mwy o liniaduron nag o gyfrifiaduron - am y tro cyntaf. Roedd hyn yn digwydd gan fod y gliniadur, erbyn 2008, ac o ran pŵer yn cael ei weld fel amnewidiad yr un bwrdd gwaith - h.y. cytal, a haws ei gludo a mwy hylaw.
Datblygiad o'r gliniadur ydy'r fersiwn ‘tra chludadwy’ (ultraportable), ac mae'r tabled yn enghraifft ohono, sy'n cael ei farchnata yn Tsieina gan fwyaf. Mae'r teclun hwn hefyd yn cynnwys system ffôn clyfar Google, sef yr Android. Erbyn diwedd 2012 bydd y tabled hwn yn cynnwys y system weithredu Microsoft Windows.