Canolfan addysg bellach ar gyfer cenedl ac Ynysoedd Ffaröe yw Glasir. Lleolir hi yn y brifddinas, Tórshavn ac fe'i hagorwyd ym mis Awst 2018.[1]
Y Coleg
Adeiladwyd er mwyn creu un canolfan addysgol ganolog i fyfyrwyr yn y chweched dosbarth, addysg alwedigaethol ac addysg uwch mewn meysydd amrywiol. Mae'n cyflogi dros 250 o staff ac mae mwy na 1,500 o fyfyrwyr yn astudio yno.
Costiodd Coleg Glasir, 636.5 miliwn DKK (tua £75 miliwn) i'w adeiladu, sy'n cyfateb i oddeutu 32,000 DKK y metr sgwâr. Bu'r gwaith adeiladu yn hwyr (roedd i fod agor yn 2014) ac yn destun trafod mawr yn y wlad.
Ffaroeg yw iaith gyfathrebu a gweinyddi'r Coleg. Mae'r cyrsiau yn y Ffaroeg, er efallai defnyddir gwerslyfrau mewn Daneg a Saesneg.
Mae dyluniad y Coleg y hollol wahanol i unrhyw adeilad arall ar yr ynysoedd. Mae'n dod â phob adran o'r Coleg o dan un to ond gyda 'breichiau' yn ymestyn o'r canol - yn ôl y pensaeri, fel "vortex" sy'n estyn i'r tu allan tra'n crynhoi yr un sydd tu fewn.[2] Mae'r breichiau hyn yn cynnwys gwahanol alwedigaethau neu athrofeydd o fewn y Coleg. Ceir prif sgwâr, neu'n hytrach, gylch, ynghannol yr adeilad sy'n agored ac ar ffurf amffitheatr.
Mae'r adeilad 100 meter uwchben lefel y môr ac yn 19,500 metr sgwâr gan edrych dros dref Tórshavn. Yn ôl y pensaeri mae natur tonnog tu fewn yr adeilad yn adlewyrchu natur bryniog y tirwedd y tu allan ar hyd yr ynysoedd.
Yr athrofeyxx a ymgorfforir yn y breichiau yw, gan restru o'r top i lawr:[2]
Gymnasiwn a Gwyddoniaeth Naturiol (llawr uchaf, goch)
Coleg Busnes, Steil a Dylunio (gwyrdd)
Gweinyddu a'r 'craidd creadigol' (porffor)
Chwaraeon (glas)
Ysgol Dechnegol (melyn)
Pensaeri'r adeilad oedd cwmni Bjarke Ingels Group (BIG) o Ddenmarc. Mae Ynysoedd Ffaroe yn wlad hunan-lywodraethol o fewn Teyrnas Denmarc ac mae'r boblogaeth yn siarad Ffaroeg fel iaith gyntaf ac yna Daneg. Poblogaeth yr Ynysoedd yw 50,000.[3]
Pensaer, sylfaenydd a phartner creadigol Bjarke Ingels Group (BIG) yw dylunydd yr adeilad, Bjarke Ingels. Meddai, "fe'n hysbrydolwyd gan dirlun dramatig Tórshavn. Roeddem yn hoffi'r syniad o drosglwyddo'r dirwedd honno i mewn i ddyluniad mewnol yr adeilad."
Daeth 3,000 o bobl i'r agoriad a gwneuthpwyd model Lego o'r coleg newydd.[4]
Ystyr yr Enw
Gellir cyfieithu'r gair 'Glasir' fel ysgafn, trawst, chwistrell neu sglein. Mae Glasir hefyd yn un o'r coed mwyaf prydferth yn mytholeg Norseg, y tu allan i Valhalla, lle mae duwiau, brenhinoedd, arwyr ac eraill sydd wedi marw ar faes y gâd yn byw.