Pêl-droediwr o'r Eidal a anwyd yng Nghymru oedd Giorgio Chinaglia (
[ˈdʒordʒo kiˈnaʎʎa]; 24 Ionawr 1947 – 1 Ebrill 2012).[1] Cafodd ei fagu yng Nghaerdydd a chwaraeodd dros Dref Abertawe o 1964 hyd 1966. Dychwelodd i'r Eidal i chwarae dros Massese, Internapoli a S.S. Lazio. Ymunodd â thîm cenedlaethol yr Eidal a chwaraeodd yng Nghwpan y Byd 1974. Ym 1976, ymunodd â'r New York Cosmos.
Cyfeiriadau