Giles Morgan

Giles Morgan
Bu farw1570 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd1547-1552 Edit this on Wikidata

Roedd Giles Morgan (tua 1515 - 9 Mawrth 1570) yn fonheddwr o Gymru ac yn Aelod Seneddol[1]

Ganwyd Morgan tua 1515, yn ail fab Syr William Morgan, Pencoed, Sir Fynwy a Florence, merch Syr Giles Brydges, Coberley, Swydd Gaerloyw.

Tua 1558 priododd Emma neu Mary, merch Thomas Brague neu Brayne, Little Dean, Swydd Gaerloyw bu iddynt tri mab.

Ym 1536 roedd yn gwasanaethu fel gwas i Thomas Cromwell, Iarll 1af Essex a phrif weinidog Harri VIII

Gwasanaethodd fel beili cyn tiroedd mynachlog Ynysgynwraidd ym 1546. Bu'n Faer Casnewydd ym 1567. Ym 1557 gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy[2], yn yr un flwyddyn bu ei frawd hŷn Syr Thomas Morgan yn AS Sir Fynwy.

Yn ei ewyllys a ysgrifennwyd ychydig cyn ei farwolaeth gofynnodd am i'w weddillion cael eu claddu yn eglwys Casnewydd.

Cyfeiriadau

Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Richard Morgan
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy
1547
Olynydd:
John Philip Morgan


Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.