Seiclwr rasio Seisnig oedd George Herbert Stancer OBE (17 Ebrill 1878 – Hydref 1962), roedd yn un o seiclwyr rasio mwyaf nodweddiadol yn ystod diwedd yr 19g ym Mhrydain, a daeth yn weinydd y Cyclists' Touring Club (CTC) o nôd yn ddiweddarach ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n cael ei goffa'n flynyddol gan dreial amser ar gyfer ieuenctid (odan 16), sef pencampwriaeth y GHS.
Dyddiau cynnar
Ganwyd Stancer ym mhentref Pocklington, 14 milltir i'r dwyrain o Efrog yn Swydd Efrog. Daeth yn aelod o glwb Yorkshire Road Club yn 1898 ac arhosodd gyda'r clwb hyd ei farwolaeth.
Fel ei gyfoeswr a'i ffrind, Frederick Thomas Bidlake, roedd Stancer yn ffafrio treic yn ystod dyddiau cynnar seiclo fel chwaraeon. Curodd Stancer a L.S. Leake record y Road Records Association, Llundain-Brighton ac yn ôl ar dreic tandem yn 1910, gan gyflawn'r daith mewn 5 awr 59 munud a 51 eiliad.
Y gweinyddwr a'r newyddiadurwr
Roedd yn lywydd y Tricycle Association o 1944-1950.
Gweithiodd fel newyddiadurwr, yn golygu cyclchgrawn Cycling Weekly am naw mlynedd.
Yn 1920, cymerodd drosodd lywyddiaeth y CTC, ar adeg pan oedd yr aelodaeth wedi i disgyn i tua 8,500. Erbyn iddo ymddeol yn 1945, roedd yr aelodaeth wedi tyfu i tua 50,000.
Gwobrwywyd ef â Gwobr Goffa Bidlake, un o anrhydaddau uchaf seiclo, yn 1943.
Cofeb
Wedi ei farwolaeth, sefydlwyd cronfa ymddiriedolaeth yn ei enw, gyda'r bwriad o hybu seiclo ymysg pobl ifanc. Dechreuwyd redeg Bencampwriaeth Treial Amser Ysgolion 10 milltir - ymdopwyd y time trial championship was instituted - mabwyswyd y gystadleuaeth hon yn 1970 gan yr Road Time Trials Council (Cycling Time Trials erbyn heddiw).
Mae reidiau GHS, sef cyfres o reisiau hamdden, yn cael eu hyrwyddo yn flynyddol gan yr 'Yorkshire Cycling Federation' ar ddydd Sul yn agos i'w benblwydd.
Mae sedd goffa ar gyfer Stancer yng ngardd goffa F.T. Bidlake yn Girtford Bridge ar Great North Road ger Sandy, Swydd Bedford. Ar un adeg, Bidlake oedd partner Stancer ar y tandem.
Cyfeiriadau