2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group A, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group B, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group C, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group D, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group E, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group F, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group G, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group H, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group I, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group J
Mae adran Ewropeaidd o gystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA 2022 yn gweithredu fel gemau rhagbrofol (neu 'gemau cymhwyso') ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022, sydd i'w gynnal yn Qatar, ar gyfer timau cenedlaethol sy'n aelodau o Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewropeaidd (UEFA).[1] Mae cyfanswm o 13 slot yn y twrnamaint olaf ar gael i dimau UEFA.[2]
Er gwaethaf rhwystrau COVID-19, disgwylir iddo gymryd lle yn Qatar rhwng 21 Tachwedd a 18 Rhagfyr 2022. Dyma fydd y Cwpan Byd cyntaf erioed i gael ei gynnal yn y byd Arabaidd,[3] a hwn fydd yr ail Gwpan y Byd a gynhelir yn gyfan gwbl yn Asia ar ôl cynnal twrnamaint 2002 yn Ne Korea a Japan. Y twrnamaint fydd yr olaf i gynnwys 32 o dimau, gyda chynnydd i 48 tîm wedi'i drefnu ar gyfer twrnamaint 2026 yn yr Unol Daleithiau, Mecsico a Chanada. Y pencampwr cyfoes (yn dilyn Cwpan y Byd Pêl-droed 2018 yw Ffrainc.[4]
Oherwydd gwres llethol yn Qatar yn yr haf, cynhelir y Cwpan Byd hwn rhwng diwedd mis Tachwedd a chanol mis Rhagfyr, gan ei gwneud y twrnamaint cyntaf i beidio â chael ei gynnal ym mis Mai, Mehefin, neu Orffennaf; mae i'w chwarae o fewn amserlen lai o oddeutu 28 diwrnod.[5]
Ar 9 Rhagfyr 2019, rhoddodd Asiantaeth Gwrth Gyffuriau'r Byd waharddiad pedair blynedd i Rwsia i ddechrau o bob digwyddiad chwaraeon mawr, ar ôl i RUSADA (Russian Anti-Doping Agency) fethu â throsglwyddo data labordy i arolygwyr.[6] Fodd bynnag, gall tîm cenedlaethol Rwsia ddal i gystadlu, gan fod y gwaharddiad ond yn berthnasol i'r twrnamaint olaf i benderfynu pencampwyr y byd. Roedd dyfarniad WADA yn caniatáu i athletwyr nad oeddent yn ymwneud â dopio gystadlu, ond gwaharddwyd defnyddio baner ac anthem Rwsia mewn digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr.[7] Cafodd apêl i'r Llys Cyflafareddu dros Chwaraeon ei ffeilio,[8] ond cadarnhawyd penderfyniad WADA ond gostyngwyd y gwaharddiad i ddwy flynedd.[9] Roedd dyfarniad CAS hefyd yn caniatáu i'r enw "Rwsia" gael ei arddangos ar wisgoedd os yw'r geiriau "Neutral Athlete" neu "Neutral Team" yr un mor amlwg.[10] Os yw Rwsia yn gymwys ar gyfer y twrnamaint, ni fydd ei chwaraewyr yn cael defnyddio enw, baner nac anthem eu gwlad yng Nghwpan y Byd, o ganlyniad i'r gwaharddiad dwy flynedd.[10]
Fformat
Cadarnhawyd fformat y gemau rhagbrofol gan Bwyllgor Gweithredol UEFA yn ystod eu cyfarfod yn Nyon, y Swistir, ar 4 Rhagfyr 2019.[11][12] Bydd cymhwyso'n dibynnu, yn rhannol, ar ganlyniadau Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2020–21, er i raddau llai nag yn UEFA Euro 2020. Bydd fformat y rhagbrofion hyn yn cynnal strwythur arferol UEFA, sef dau gam: cam grwpiau a 'cham y gemau ail gyfle (playoffs)'.[13][14][15]
Cam grwpiau: 5 grŵp o 5 tîm a 5 grŵp o 6 thîm (gyda'r 4 tîm sy'n gwneud Rowndiau Terfynol Cynghrair Cenhedloedd UEFA 2021 yn y grwpiau llai). Bydd enillwyr grŵp yn gymwys ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
Cam ail-chwarae: Bydd dau enillydd grŵp Cynghrair y Cenhedloedd gorau yn ymuno â'r 10 sy'n ail yn y grŵp, yn seiliedig ar safle cyffredinol Cynghrair y Cenhedloedd, sy'n gorffen y tu allan i ddau uchaf eu grŵp cymwys. Bydd y 12 tîm hyn yn cael eu tynnu i mewn i dri llwybr ail-chwarae, gan chwarae dwy rownd o gemau ail-chwarae un-gêm (rownd gynderfynol gyda'r timau cartref i'w dethol, ac yna rowndiau terfynol, gyda'r timau cartref i'w tynnu). Bydd y tri enillydd llwybr yn gymwys ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
Ar 4 Rhagfyr 2019, cymeradwyodd Pwyllgor Gweithredol UEFA dechrau defnyddio'r system dyfarnwr cynorthwyydd fideo (VAR) ar gyfer y gemau cymhwyso.[13] Fodd bynnag, ni weithredwyd VAR ar ddechrau'r gemau rhagbrofol oherwydd effaith y pandemig COVID-19.[16] Ar 5 Awst 2021, cyhoeddodd UEFA y byddai'r system VAR yn cael ei defnyddio ar gyfer gweddill y gemau, gan ddechrau ym Medi 2021.[17]
Dyrannwyd timau i botiau dethol fel a ganlyn (Tachwedd 2020 Rhestr Detholion y Byd FIFA a ddangosir yn yr ail golofn; mae'r timau cenedlaethol sydd wedi cymhwyso ar gyfer y twrnamaint olaf wedi'u cyflwyno mewn print trwm; mae'r timau cenedlaethol a fydd yn cymryd rhan yn y gemau ail gyfle yn cael eu cyflwyno mewn italig).[18][19]
Cymhwysodd enillydd pob grŵp yn uniongyrchol ar gyfer Cwpan y Byd Pêl-droed 2022 Bydd yr ail o bob grŵp a dau enillydd grŵp gorau Cynghrair y Cenhedloedd yn symud ymlaen i'r ail rownd (gemau ail gyfle) Cafodd timau eraill eu dileu ar ôl y rownd gyntaf
Cadarnhawyd y rhestr gemau gan UEFA ar 8 Rhagfyr 2020, drannoeth tynnu'r rhestr.[20][21][22] Roedd Qatar wedi'i phartneru â Grŵp A pum tîm, a alluogodd gwesteiwyr Cwpan y Byd FIFA 2022 i chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn y gwledydd hyn ar eu dyddiadau gemau "sbâr". Fodd bynnag, nid oedd y gemau cyfeillgar hyn yn cyfrif yn y grwpiau rhagbrofol.[23][24]
Bydd yr ail rownd (gemau ail gyfle) yn cael eu chwarae gan y deg tim ail-gyfle a'r ddau dim enillwyr gorau grŵp Cynghrair y ddwy Wlad, yn seiliedig ar safle cyffredinol Cynghrair y Cenhedloedd,[25] a orffennodd y tu allan i ddau uchaf eu grŵp cymwys. Byddant yn cael eu gwahanu'n dri llwybr ail-chwarae, gyda phob llwybr yn cynnwys dwy rownd gynderfynol un-cymal (single-leg) ac un rownd derfynol un-cymal. Bydd y rownd gynderfynol yn cael ei chynnal gan y chwe ail orau yn y cam grwpiau rhagbrofol, tra bydd lleoliad y gêm derfynol yn cael ei bennu gan drwy fwrw coelbren.[26] Bydd y rownd gynderfynol yn cael ei chwarae ar 24 Mawrth 2022, a'r rowndiau terfynol ar 29 Mawrth 2022. Bydd enillwyr pob llwybr yn gymwys ar gyfer Cwpan y Byd.