Garwen ferch Henin Hen

Merch chwedlonol neu led-hanesyddol o degwch eithriadol oedd Garwen ferch Henin Hen. Ystyr Garwen yw "coes (neu esgair) deg".

Cyfeirir at Garwen yn y Trioedd fel un o 'Dair Caredigwraig Arthur' (Tair gordderch Arthur), ynghyd ag Indeg ferch Arwy Hir a Gŵyl ferch Endawd/Gendawd. Ni wyddys ddim o gwbl am ei thad Henin Hir, ond ceir yr amrywiad "Heinin Hir" mewn un llawysgrif ac roedd Heinin Fardd (neu Hinyn Fardd) yn fardd a gysylltir â llys Maelgwn Gwynedd a'r Canu Darogan Cymraeg.

Cyfeirir at Garwen yn Englynion y Beddau (Llyfr Du Caerfyrddin), er bod y testun yn llwgr gan mai copïau diweddarach o'r testun hwnnw sydd ar gael. Yn yr un englyn, cyfeirir at fedd Rhun ap Maelgwn Gwynedd a morwyn anhysbys o'r enw Lledin sydd efallai i'w chysylltu â Rhiwledyn, ger llys Maelgwn yn y Creuddyn yn Rhos. Mae'r beddau "yn y morfa", sy'n awgrymu cysylltiad arall ag ardal y Creuddyn a llys Maelgwn Gwynedd gan fod Morfa Rhianedd (sef Penmorfa/West Shore, Llandudno heddiw o bosib) yn yr ardal honno.

Efallai y bu chwedl(au) am Garwen yn cylchredeg ar un adeg, ond does dim olion ohonynt erbyn heddiw.

Cyfeiriadau

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydain (Caerdydd, 1961, arg. newydd 1991). Triawd 57 a'r nodiadau.