Maestref o Wrecsam a ward etholiadol yng nghymunedRhos-ddu, Mwrdeistref Sirol Wrecsam, yw Garden Village.[1] Cafodd yr enwau Pentref Gardd a Pentre'r Ardd eu hawgrymu fel fersiynau Cymraeg o "Garden Village", ond yn ôl Comisiynydd y Gymraeg does dim prawf bod enw Cymraeg yn bodoli ar gyfer y lle. Saif y faestref i'r gogledd o ganol y dref ac i'r gorllewin o Chester Road. Mae'r ward etholiadol yn ffinio â wardiau Stansty, Dwyrain a De Gwersyllt, Little Acton ac Acton, a rhan fechan o Gresffordd.
Poblogaeth y ward yng Nghyfrifiad 2011 oedd 2,035.[2]
Hanes
Enw gwreiddiol y tir lle cafodd Garden Village ei adeiladu oedd "Mass & Pentre". Lleolir y tir i'r de-orllewin o blasty Stansty Hall (dymchwelwyd y plasty er mwyn creu gofod ar gyfer tai newydd).[3][4]
Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, roedd tai o ansawdd gwael mewn llawer o ardaloedd yn Wrecsam, ac roedd twf mewn diwydiant yn yr ardal leol yn achosi prinder tai.[5]
Pwrpas y prosiect oedd darparu tai fforddiadwy ar gyfer gweithwyr oedd yn symud i Wrecsam i weithio yn y diwydiannau glo a haearn. Roedd Glofa Gresffordd wedi’i hagor yn ddiweddar ac roedd disgwyl y byddai tua 3,000 o ddynion yn cael eu cyflogi yn y ddwy flynedd nesaf.[6]
Yn 1913, sefydlwyd cymdeithas tai cyd-bartneriaeth o'r enw Wrexham Tenants Limited. Roedd yr Arglwydd Kenyon a David Davies, Barwn 1af Davies ac AS ar gyfer Sir Drefaldwyn, ymysg cyfarwyddwyr y gymdeithas. Ar yr un pryd, roedd David Davies a'i chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies wedi sefydlu yr Welsh Town Planning a Housing Trust i hyrwyddo tai gwell yng Nghymru a mannau eraill. Byddai Wrexham Tenants Ltd yn adeiladu'r tai eu hunain, tra byddai'r ymddiriedolaeth yn adeiladu'r ffyrdd ac yn goruchwylio datblygiad y stad.[6]
Y cynllun gwreiddiol, gan y pensaer George Lister Sutcliffe,[5] oedd darparu athrofa, dau addoldy, ysgol a digon o fannau agored a meysydd chwarae.[6] Ysbrydolwyd y dyluniad gan fudiad Garden City ac fe'i cynlluniwyd fel maestref gardd. Yn y flwyddyn gyntaf, cwblhawyd 44 ty:[6] rhifau 63-69 Acton Gate, rhifau 149–167 Chester Road (enw gwreiddiol yr heol: Bryn Acton), a Cunliffe Walk. Cynlluniwyd y tai cyntaf gan Sutcliffe, ac yr weddill (205 ty) gan Thomas Alwyn Lloyd, pensaer yr ymddiriedolaeth.[5]
Un o nodweddion arloesol y datblygiad oedd bod y tenantiaid hefyd yn fuddsoddwyr yn y cwmni.[5]
Gyda dyfodiad y Rhyfel Byd Cyntaf, collodd y datblygiad ysgogiad ac ni wnaed unrhyw ddatblygiad pellach gan Wrexham Tenants Limited. Ni chodwyd y siopau, yr eglwysi, yr athrofa na'r ysgol erioed, ond cafodd Eglwys Santes Farged ei hadeiladu ym 1928, yn dilyn yn rhannol cynllun gwreiddiol Thomas Alwyn Lloyd.[5]
Yn 1955, daeth Wrexham Tenants Limited i ben a gwerthwyd y tai i'r tenantiaid am brisiau llawer is o rhwng £250 a £450.[5]
Cofrestrwyd Garden Village yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gyda'r rhif NPRN 409889.[7]