Dinas a phorthladd yn Sweden yw Göteborg, hefyd Gothenburg. Hi yw ail ddinas Sweden o ran poblogaeth, a phrifddinas talaith Västra Götalands län. Roedd y boblogaeth yn 2005. Saif yn rhan ddeheuol y wlad.
Sefydlwyd y ddinas yn 1621 gan Gustavus Adolphus, brenin Sweden. Nodweddir Göteborg gan ganran uchel o fewnfudwyr, tua 43% o'r boblogaeth. Hi yw porthladd pwysicaf Sweden, a Phrifysgol Göteborg, sydd a 60,000 o fyfyrwyr, yw prifysgol fwyaf gwledydd Llychlyn.