Fulke Greville, Barwn 1af Brooke |
---|
Portread olew o'r Barwn Brooke, tua 1620 |
Ganwyd | 3 Hydref 1554 Alcester, Beauchamp Court |
---|
Bu farw | 30 Medi 1628 Warwick |
---|
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | bardd, gwladweinydd, dramodydd, gwleidydd |
---|
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1572-83, Member of the 1584-85 Parliament, Member of the 1586-87 Parliament, Member of the 1589 Parliament, Member of the 1593 Parliament, Member of the 1597-98 Parliament, Aelod o Senedd 1601, Member of the 1621-22 Parliament |
---|
Tad | Fulke Greville |
---|
Mam | Lady Anne Neville |
---|
Bardd, dramodydd, diplomydd a gwleidydd o Loegr yn ystod oesoedd Elisabeth ac Iago oedd Syr Fulke Greville, Barwn 1af Brooke (3 Hydref 1554 – 30 Medi 1628).
Ganed ef yn Beauchamp Court ger Alcester, Swydd Warwick, Teyrnas Lloegr. Cafodd ei dderbyn i Brifysgol Caergrawnt ym 1568. Penodwyd i Lys y Mers ym 1576. Aeth ar ei genhadaeth gyntaf i'r Cyfandir ym 1577, a byddai'n ymweld yn ddiweddarach â'r Gwledydd Isel, Iwerddon, a Ffrainc. Gwasanaethodd yn Aelod Seneddol dros Southampton o 1581 i 1584, a thros Swydd Warwick o 1587 i 1601 ac eto ym 1621. Ym 1598 fe'i dyrchafwyd yn drysorydd y llynges. Roedd yn ffefryn i'r Frenhines Elisabeth, ond fe gododd wrychyn yr Ysgrifennydd Gwladol, Syr Robert Cecil, ac o'r herwydd ni chafodd ei ddyrchafu i un o swyddi uchel y llywodraeth yn sgil esgyniad Iago I i orsedd Lloegr. Er gwaethaf, fe'i urddwyd yn Farchog y Baddon, a rhoddwyd Castell Warwick iddo ar orchymyn y Brenin Iago ym 1605. O'r diwedd, wedi marwolaeth Cecil, penodwyd Greville yn Ganghellor y Trysorlys ym 1614, a fe'i anrhydeddwyd gyda barwniaeth ym 1621.[1]
Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'i gynnyrch llenyddol wedi ei farwolaeth. Argraffwyd ei gasgliad o sonedau Caelica yn gyntaf ym 1633, a'i fywgraffiad o Syr Philip Sidney ym 1652. Ysgrifennodd o leiaf ddwy ddrama ddarllen, trasiedïau gyda themâu Dwyreiniol: Alaham a Mustapha. Cyfansoddodd sawl traethawd mydryddol, ar bynciau gwleidyddol ac athronyddol.
Ni briododd, er yr oedd yn hoff o fercheta. Trywanwyd Greville yn farw, yn 73 oed, gan un o'i weision. Ysgrifennodd ei feddargraff ei hun: "Gwas i'r Frenhines Elisabeth, cynghorwr i'r Brenin Iago, a chyfaill i Syr Philip Sidney".
Cyfeiriadau