Roedd Frances Batty Shand (c.1815 – 11 Rhagfyr1885) yn actifydd elusennol cynnar yng Nghaerdydd, Cymru.[1] Cafodd ei geni yn Jamaica, yn ferch i gaethwas a pherchennog planhigfa. Fe’i hanfonwyd i fyw yn Elgin, yr Alban, ym 1819.
Wedyn [2] daeth Shand i Gaerdydd, lle roedd ei brawd John yn gweithio i Gwmni Rheilffordd Rhymni.[3] Gyda'r arian a etifeddwyd gan ei thad, sefydlodd hi'r Gymdeithas er Gwella Amodau Cymdeithasol a Gwaith y Deillion [4] (a ddaeth yn Sefydliad y Deillion Caerdydd ) ym mis Ebrill 1865.
Ymddeolodd Shand ym 1877.[5] Bu farw hi yn y Swistir ym 1885.[6] Roedd ei chorff wedi'i ddychwelyd i Gaerdydd i'w gladdu ym Mynwent Allensbank.[3] Gadawodd arian i'r Sefydliad er mwyn caniatáu iddo barhau â sicrwydd ariannol.[7][8] Ym 1953 symudodd i adeilad pedwar llawr newydd a enwyd yn Shand House ym 1984.[5]