Rhaglen bêl-droed wythnosol ar BBC One yw Football Focus sy'n cael ei ddarlledu yn gynnar ar brynhawn Dydd Sadwrn yn ystod y tymor. Ers 2021, maent wedi eu cyflwyno gan y cyn pêl-droediwr Alex Scott.[1][2] Mae'r rhaglen yn rhoi trosolwg o newyddion a digwyddiadau pêl-droed yr wythnos ac yn gynnwys cyfweliadau gyda sêr y gem o'r Uwch Gynghrair a thu hwnt, uchafbwyntiau a dadansoddiadau o rai gemau o'r wythnos cynt a rhagolygon o gemau y Dydd Sadwrn gyda sylwebwyr Match of the Day.
Sam Leitch oedd y cyflwynydd cyntaf. Rhai o gyn-gyflwynwyr y rhaglen yw Dan Walker, Gary Lineker, a Bob Wilson.[3]
Cyfeiriadau