Ymosodiad terfysgol ar Adeilad Ffederal Alfred P. Murrah yng nghanol Dinas Oklahoma ar 19 Ebrill 1995 oedd ffrwydrad Dinas Oklahoma, yr ymosodiad mwyaf ddinistriol ar dir yr Unol Daleithiau nes ymosodiadau 11 Medi 2001. Bu farw 168 o bobl, gan gynnwys 19 o blant o dan 6 oed, ac anafwyd mwy na 680 o bobl. Dinistriwyd neu ddifrodwyd 324 o adeiladau o fewn radiws o 16 o flociau, dinistriwyd neu losgwyd 86 o geir, a thorodd gwydr mewn 258 o adeiladau cyfagos. Amcangyfrifwyd i'r bom achosi o leiaf $652 miliwn o ddifrod. Cafwyd Timothy McVeigh a Terry Nichols yn euog o'r ymosodiad ym 1997. Dienyddiwyd McVeigh gan bigiad marwol ar 11 Mehefin 2001, a dedfrydwyd Nichols i garchar am oes.[1]
Cyfeiriadau