Mae Ffinlandia, Op. 26, yn gerdd dôn gan y cyfansoddwr o'r Ffindir, Jean Sibelius. Cafodd ei gyfansoddi yn wreiddiol ym 1899 a'i diwygio ym 1900. Cafodd y darn ei chyfansoddi ar gyfer Dathliadau'r Wasg, 1899, protest cudd yn erbyn sensoriaeth gynyddol Ymerodraeth Rwsia. Ffinlandia oedd yr olaf o saith darn i'w perfformio fel cyfeiliant i dablo yn darlunio penodau o hanes y Ffindir. Roedd y perfformiad cyntaf ar 2 Gorffennaf1900 yn Helsinki gan Gymdeithas Ffilharmonig Helsinki dan arweiniad Robert Kajanus. Fel arfer bydd perfformiad yn cymryd rhwng 7½ a 9 munud.
Er mwyn osgoi sensoriaeth Rwsia, roedd Ffinlandia yn cael ei berfformio o dan enwau eraill mewn gwahanol gyngherddau. Ymysg y ffug deitlau niferus defnyddiwyd i berfformio'r darn bu Teimladau Hapus yn neffroad y Gwanwyn yn y Ffindir ac Ymdeithgan Gorawl Sgandinafaidd.
Mae'r rhan fwyaf o'r darn yn llawn cerddoriaeth fywiog a chythryblus, i greu naws brwydr genedlaethol pobl y Ffindir. Tua diwedd y darn mae'r gerddorfa yn tawelu i gyflwyno, melodi araul Emyn Ffinlandia. Er ei fod yn cael ei ddisgrifio'n anghywir fel alaw werin draddodiadol, mae'r Emyn yn gyfansoddiad gwreiddiol gan Sibelius ei hun.[1]
Er ei fod yn wreiddiol wedi ei gyfansoddi ar gyfer cerddorfa, ym 1900 trefnodd Sibelius y gwaith ar gyfer unawd piano.[2][3]
Ail-weithiodd Sibelius Emyn Ffinlandia fel darn i sefyll ar ei ben ei hun. Yr emyn hwn, gyda'r geiriau a ysgrifennwyd ym 1941 gan Veikko Antero Koskenniemi, yw un o ganeuon cenedlaethol pwysicaf y Ffindir.
Yn y Gymraeg defnyddir yr emyn dôn Ffinlandia fel cyfeiliant i emyn gwladgarol Lewis ValentineGweddi Dros Gymru (Dros Gymru'n Gwlad). Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr emyn SaesnegBe Still, My Soul, ar emyn EidalegVeglia al mattino[4]. Fe'i defnyddiwyd hefyd fel anthem genedlaethol y wladwriaeth Affricanaidd fyrhoedlog Biafra.
Cyfeiriadau
↑Dubal, David. The Essential Canon of Classical Music, p. 466. New York: North Point Press, 2001.