Planhigyn blodeuol lluosflwydd ydy Ffenigl y moch sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Peucedanum officinale a'r enw Saesneg yw Hog's fennel. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Pygys a Ffenigl yr Hwch. Mae'n frodorol o ganol a de Ewrop,[1] ac yn brin iawn yn Lloegr, ond mae i'w weld yn Essex a Kent.
Fe'i ceir mewn tir pori a cheuau gwair, clai neu ger yr arfordir. Tyf y bonion hyd at 2 m, yn soled a gyda blotsis coch lliw gwin. Melyn-wyrdd yw'r blodau ac mae'r dail o siap llafnau gwair yn wyrdd tywyll.[2]