Ffenestr

Ffenestri dalennog mewn adeilad yn Jersey.
Ffenestr lliw gyda darluniau Beiblaidd mewn eglwys yn yr Alban.

Agoriad mewn a geir mewn waliau, drysau, cerbydau neu gynwysyddion yw ffenestr, sy'n gadael golau trwyddynt, ac os yw'r ffenestr yn agored, sŵn ac awyr yn ogystal. Mae'r term ffenestr hefyd yn cyfeirio at wrthrych tryloyw neu dryleu sy'n cael ei ddefnyddio i gau'r agoriad. Caiff ffenestr ei wydro gyda deunydd tryloyw neu dryleu megis gwydr neu blastig. Caiff y gwydredd yn ei gynnal yn ei le gan ffram y ffenestr, a gynhyrchir gan amlaf o bren, plastig neu fetel.

Mathau o ffenestri

Mae ffenestri Ffrengig yn debyg i ddrysau, gyda colfachau ar ymylon fertigol y fframiau, sy'n galluogi i'r ffenestri symud yn llorweddol pan caent eu agor. Lleolwyd rhain oddiar y llawr mewn adeiladau Ffrengig, gyda rheiliau isel i atal pobl rhag disgyn allan o'r ffenestri, ac weithiau gyda balconi bychan. Roedd rhain yn agor am i mewn fel rheol. Mae'r math hyn o ffenestri wedi esblygu ym Mrydain i gyfeirio at ffenestri cyffelyb i ddrysau ar lawr gwaleod adeiladau, sy'n agor allan i'r ardd

Mae gan ffenestr dalenog ddau ddalen sy'n llithro i fyny neu lawr er mwyn agor.

  • Ffenestr ffug

Math o ffenestr addurniadol, weithiau trompe l'oeil, a ddyfeiswyd mewn adeg pan fu treth yn cael ei osod ar sail nifer o ffenestri oedd gan adeiladau.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am ffenestr
yn Wiciadur.