Herne Hill yw'r unig drac yn Llundain ers dymchweliad y trac yn y Paddington Recreation Grounds yn 1987, ac hyd i vélodrome newydd gael ei hadeiladu yn Stratford ar gyfer Gemau Olympaidd 2012.
Yn wahanol i veledrome Olympaidd cyfoes, sydd gydacylchedd mewnol o 250 metr a 250m, a bancio o tua 45° bob pen, mae Herne Hill yn fowlen bas concrit sy'n mesur tia 450 metr gyda'r bancio bob pen tua 30° ar ei phwyntiau serthaf.
Defnydd cyfoes
Brwydrodd ymgyrch i gadw'r trac yn ystod y 2000au cynnar yn dilyd dadl rhwng y perchennog, Ystâd Dulwich, a'r prydleswr, Cyngor Southwark. Un o gefnogwyr yr ymgyrch oedd enillydd medal aur yn y Gemau Olympaidd, Bradley Wiggins, a ddechreuodd rasio yn Herne Hill pan oedd ond yn 12 oed.[3]
Mae'r cefnogwyr yn gweld y vélodrome yn chwarae rôl yn cefnogi seiclwyr trac o Lundain yn yr adeg sy'n arwain at Gemau Olymaidd 2012.
Mae Herne Hill yn cynnal sasiynau ymarfel rheolaidd ar gyfer reidwyr ifan, ac bu'n leoliad i gyfarfod Gwener y Groglith a'i threfnwyd gan y Southern Counties Cycle Union ers 1903. Mae pencampwyr y byd wedi cystadlu yn y cyfarfodydd rhain, a bu presenoldeb o 10,000 yn cael eu denu yno yn yr 1920au a'r 1930au.[4] Mae amryw o racordiau cenedlaethol a recordiau'r byd wedi cael eu sefydlu yno, yn nodweddiadol Frank Southall o glwb Norwood Paragon yn hwyr yn yr 1920au a'r 1930au cynnar.