Evan Isaac |
---|
Ganwyd | 18 Mehefin 1865 |
---|
Bu farw | 16 Rhagfyr 1938 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | llenor |
---|
Gweinidog ac awdur oedd Evan Isaac (18 Mehefin 1865 - 16 Rhagfyr 1938). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur y llyfr Coelion Cymru, sy'n ffynhonnell werthfawr ar gyfer astudio llên gwerin Cymru.[1]
Bywgraffiad
Ganed Evan Isaac yn Nhre Taliesin yng ngogledd Ceredigion. Gadawodd yr ysgol yn ddeg oed, a bu'n gweithio mewn gwaith mwyn lleol cyn mynd i dde Cymru i weithio fel glowr. Dechreuodd bregethu pan oedd yn löwr yn Aberpennar. Daeth yn weinidog Wesleaidd yn 1888, cyn astudio yng Ngholeg Handsworth, Birmingham, am dair blynedd. Bu'n weinidog cryn nifer o leoedd yng nghanolbarth a de Cymru. Dychwelodd i Dre Taliesin ar ôl ymddeol.[1]
Cyhoeddiadau
- Prif Emynwyr Cymru (1925)
- Humphrey Jones a Diwygiad 59 (1930)
- Yr Hen Gyrnol (1934)
- Coelion Cymru (1938)[2]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
- ↑ Isaac, Evan (1938). Coelion Cymru . Aberystwyth: Gwasg Aberystwyth.