Ceir pedwar math o etholiadau yn y Ffindir, sy'n ethol y canlynol: yr Arlywydd, y Senedd, Aelodau Senedd Ewrop a chyngorau lleol. Gall dinasyddion dros 18 oed bleidleisio.
Ar lefel genedlaethol mae'r Ffindir yn ethol pennaeth gweriniaethol - yr arlywydd - a'r senedd. Etholwyd yr arlywydd am dymor chwe-mlynedd gan y bobl. Mae gan y Senedd (Eduskunta/Riksdag) 200 o aelodau, wedi'u hethol am dymor pedair-mlynedd gan gynrychiolaeth cyfraneddol yn etholaethau aml-sedd. Mae gan y Ffindir gyfundrefn mwy na un blaid, efo tair plaid gref, lle fel arfer nad oes gan un blaid siawns o ennill pŵer ar ei hunan, ac mae angen i bleidiau weithio a'i gilydd i ffurfio llywodraethau clymblaid.