Mae Esyllt Maelor yn athrawes a bardd o Nefyn.[1] Enillodd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.[2]
Roedd Esyllt Maelor yn athrawes yn Ysgol Botwnnog, Caernarfon.[3] Cafodd ei geni yn Harlech a cafodd ei magu yn Abersoch, Llŷn.[2] Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Bangor. Gyda'i gŵr Gareth mae ganddi dri o blant: Dafydd, Rhys a Marged. Ym 1977 hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd.[4]
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau