Gwyddonydd gwleidyddol ac athronydd Almaenig-Americanaidd ac ysgolhaig rhyngddisgyblaethol oedd Eric Voegelin (3 Ionawr 1901 – 19 Ionawr 1985) sydd yn nodedig am ei astudiaethau o wleidyddeg fodern yn ogystal â'i ymdrechion i lunio athroniaeth gynhwysfawr o'r ddynolryw, cymdeithas, ac hanes.
Bywgraffiad
Ganed ef yng Nghwlen, Ymerodraeth yr Almaen. Enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Fienna ym 1922, ac yno addysgodd y gyfraith o 1929 i 1938. Ffoes i'r Swistir yn sgil yr Anschluss, ac yna i Unol Daleithiau America. Fe'i derbyniwyd yn ddinesydd Americanaidd ym 1944. Treuliodd ei yrfa academaidd yn yr Unol Daleithiau yn Harvard, Coleg Bennington, Prifysgol Alabama, a Phrifysgol Daleithiol Louisiana. Dychwelodd i'r Almaen i addysgu gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol München o 1958 i 1969. Symudodd yn ôl i'r Unol Daleithiau ac ymsefydlodd yn Stanford, Califfornia, i weithio yn uwch-gymrawd ymchwil yn Sefydliad Rhyfel, Chwyldro, ac Heddwch Hoover. Bu farw yn Stanford yn 84 oed.[1]
Syniadaeth
Ar sail ei ddealltwriaeth o hanes athroniaeth wleidyddol—yn enwedig ysgrifeniadau Platon ac Aristoteles a ddylanwadwyd yn gryf arno—aeth Voegelin i'r afael ag athroniaeth hanes yn ei ymdrech i amgyffred natur y drefn wleidyddol a'i pherthynas â chyflwr y ddynolryw. Archwiliodd Voegelin sefydliadau gwleidyddol, symbolau ieithyddol, a syniadau hanesyddol a modern ynglŷn â gwareiddiad at ddiben dehongli'r arwyddion a mythau sydd yn rheoli'r gymdeithas wleidyddol, a chyda'r sylfaen honno fe geisiodd lunio athroniaeth o ymwybyddiaeth.
Un o themâu canolog ei waith yw ei feirniadaeth ar fodernedd. Dadleuai taw argyfwng yn yr ymwybyddiaeth ddynol oedd modernedd, o ganlyniad i golli sylw o drosgynoldeb y ddirwedd a chanolbwyntio'n ormod ar fateroliaeth a chynnydd technolegol. Yn ôl Voegelin, arweiniodd y trawsnewidiad syfrdanol hwn at hollti'r ymwybyddiaeth ddynol, gan achosi pobl i golli perthynas â'r realiti ysbrydol wrth wraidd bodolaeth.
Llyfryddiaeth
- Der Autoritäre Staat (1936).
- The New Science of Politics (1952).
- Order and History, 4 cyfrol (1956–74).
- Science, Politics and Gnosticism (1959).
- From Enlightenment to Revolution (1975).
Cyfeiriadau