Eric Jones

Eric Jones
GanwydCymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdringwr mynyddoedd Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Dringwr ac anturiaethwr o Gymru yw Eric Jones (ganwyd 1935).[1] Mae'n fwyaf adnabyddus am fod y Cymro (a'r Prydeiniwr) cyntaf i ddringo wyneb ogleddol yr Eiger yn yr Alpau, yn 1981 ar ei ben ei hun, camp a ffilmiwyd gan Leo Dickinson fel Eiger Solo. Yn ogystal, mae Eric Jones yn enwog am fod y person cyntaf i ddringo Piler Canol y Brouillard ar grib ddeheuol Mont Blanc. Yn 1972, dringodd wyneb ogleddol y Matterhorn ar ei ben ei hun. Llwyddodd hefyd i ddringo y bwlch deheuol sy'n arwain at gopa Everest.[2] Yn 1986, Eric Jones oedd y person cyntaf i neidio BASE oddi ar yr Eiger, a hynny ar ei naid BASE gyntaf. Yn ogystal, mae Eric Jones wedi neidio BASE oddi ar y rhaeadr uchaf yn y byd, sef Kerepakupai Vená (Rhaeadr Angel) yn Feneswela, ac i mewn i Ogof y Gwenoliaid (Sotano de las Golodrinas) ym Mecsico.

Bywyd cynnar

Magwyd Eric Jones ar fferm ei deulu ger pentref Derwen, Sir Ddinbych, a mynychodd Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun. Treuliodd lawer o'i blentyndod yn cynorthwyo ar y fferm a daeth yn brif ofalwr ar y fferm ym Fryn Saith Marchog ar ôl marwolaeth ei dad pan oedd Eric yn ddeunaw mlwydd oed. Yn fuan wedyn, symudodd y teulu a dechreuodd Eric weithio mewn chwarel yng Ngwyddelwern. Dioddefai ei fam o salwch meddwl; cyfaddefodd yn 'Golwg' 'Ro'n i'n reit isel fy ysbryd am y blynyddoedd yna'.[3]

Pan gafodd yr alwad i gwblhau ei wasanaeth cenedlaethol, gobeithiodd Eric ymuno gyda Chatrawd y Parasiwtwyr, ond methodd a gwneud hynny oherwydd ei fod wedi dioddef anaf i'w ben-glin. Yn y pen draw, ymunodd Eric gyda'r Heddlu Milwrol a threuliodd ddwy flynedd yn gwasanaethu gyda nhw.

Dringo

Pan ddychwelodd Eric i Gymru, cychwynodd weithio yn ffatri deunyddiau syunthetig 'Courtaulds' yn y Fflint. Yn ysod ei amser hamdden byddai'n hoff o ymweld â'r mynyddoedd yn Eryri, ac yn 25 mlwydd oed penderfynodd Eric a'i gyfaill Gordon Rees ddilyn cwrs tri niwrnod a gynhaliwd yn Nyffryn Ogwen ar sut i ddringo gyda rhaffau.

Dysgodd Eric ddringo yn ardal Llanberis, Gwynedd a daeth yn feistr ar y grefft yn sydyn iawn. Wedi hynny, dechreuodd ddringo ar ei ben ei hun heb raffau, a bu'n dringo llawer yn ardaloedd yr Alpau a'r Himalaya yn ogystal â mynyddoedd De'r Amerig. Bu'n gweithio mewn ysgol ddringo Americanaidd yn Zermatt, y Swistir, bob haf am bedair blynedd.

Yn ychwanegol at ddringo mynyddoedd a neidio BASE, mae Eric Jones yn ymddiddori mewn parasiwtio. Mae hefyd yn berchenog caffi yn Nhremadog. Yn 2014, yn 78 oed, roedd wedi gyrru i'r Pyrennes i sgio am dri mis, dringo ym Mhatagonia a neidio o awyren.

Cyfeiriadau

  1. Alun Fôn Roberts (28 Tachwedd 2013). Gwefr ar Graig. Golwg
  2. "The Man who jumped beneath the Earth; Adalwyd 7 Mai 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-09-29. Cyrchwyd 2004-09-29.
  3. Golwg 20 Tachwedd 2014; tud 15