Ymgyrchydd dros gydraddoldeb hil oedd Enrico A. Stennett (9 Hydref1926 – 7 Gorffennaf2011).[1] Cafodd ei eni ym mhentref Maroon Town ger Bae Montego, Jamaica, ar 9 Hydref 1926. Fel plentyn o hil gymysg, fe wynebodd atgasedd a dioddefaint cyn ei fod wedi cyrraedd blynyddoedd ei arddegau.[2] Croesodd Gefnfor yr Iwerydd ar fwrdd HMT Empire Windrush pan oedd yn 21 oed ym 1947. Ymunodd â'r 'League of Coloured People' yn fuan wedi cyrraedd gwledydd Prydain, gan ddechrau oes o ymgyrchu dros gydraddoldeb hil ac yn erbyn hiliaeth systemig.
Priododd ei wraig gyntaf, Margaret, yn y blynyddoedd ar ôl cyrraedd a sefydlodd y ddau, ynghyd â'u cyfaill Iddewig Stanley Freeman, y 'Cosmopolitan Social Society' ym 1950.[3] Pan ddaeth y gymdeithas honno i ben yn 1952, sefydlodd Stennett yr 'African League'. Bu hefyd yn allweddol yn sefydlu'r papur newydd The African Voice - papur newydd cyntaf y gymuned ddu yng ngwledydd Prydain.[4]
Roedd Stennett yn ddawnsiwr talentog, a gwnaed ffilm amdano o'r enw Mr Magic Feet a gynhyrchwyd gan y cyfarwyddwr cerdd o Jamaica Julian Henriques i'r BBC ym 1987.[5]
Dychwelodd Stennett i Jamaica gyda'i ail wraig, Mary, wedi iddo ymddeol. Wedi cyfnod yno, dychwelodd i ynysoedd Prydain eto, y tro hwn i ogledd Cymru, a bu'n byw ym Mhenmaenmawr ac yn gweithio i Rwydwaith Cydraddoldeb Hil Cymru. Cyhoeddwyd ei hunangofiant White Master’s Child -Buckra Massa Pickney mewn Siamaiceg yn 2006.
Bu farw Enrico Stennett ar 7 Gorffennaf 2011, ac fe'i rhoddwyd i orffwys ym Mynwent Llanrhos ger Llandudno. Ar ei garreg fedd ceir y geiriau 'Fighter for world freedom, justice, equality & peace'.[6]