Canwr, cyfansoddwr a chyfarwyddwr ffilm yw Endaf Emlyn Jones (ganwyd 31 Gorffennaf 1944).[1] Roedd yn aelod o'r grwpiau Injaroc a Jîp.
Bywyd cynnar
Ganwyd Emlyn ym Mangor a'i magwyd ym Mhwllheli. Yn ei arddegau bu'n aelod o gerddorfa ieuenctid Cymru ar yr un pryd a Karl Jenkins a John Cale, gan chwarae'r ffidil. Fe'i hyfforddwyd fel athro ond daeth yn adnabyddus ar ddiwedd y 1960au fel cyhoeddwr teledu gyda HTV Cymru.[1][2]
Gyrfa
Cerddoriaeth
Bu'n cyfansoddi ers y 1960au ac ymunodd â chwmni cyhoeddi Tony Hatch, M&M Music. Ym 1967/8 cyhoeddwyd ei record gyntaf, Paper Chains ar label Parlophone, yr un label â'r Beatles ar y pryd. Dewiswyd y gân yn record yr wythnos gan Tony Blackburn ar BBC Radio 1. Ar ail ochr y record sengl oedd Madryn a gafodd ei recordio yn stiwdio'r Beatles yn Abbey Road. Cyhoeddodd ddwy record sengl arall ar Parlophone, All My Life / Cherry Hill, a Starshine / Where were You?.[2]
Rhyddhawyd ei albwm gyntaf, Hiraeth yn 1973, albwm oedd yn cyfuno dehongliadau o hen alawon gwerin a chaneuon gwreiddiol telynegol eu naws.[1]
Y grŵp cyntaf iddo fod yn aelod ohono oedd Yr Eiddoch Yn Gywir gyda Hywel Gwynfryn a Derek Boote. Aeth ymlaen i fod yn aelod o'r swper grŵp Injaroc yn 1977 a'r grŵp Jîp.[1]
Yn 1974 cyfansoddodd gerddoriaeth agoriadol opera sebon Gymraeg y BBC, Pobol y Cwm, ac mae'r thema wedi ei ddefnyddio mewn sawl fersiwn ers hynny.[1]
Ffilm a theledu
Cychwynnodd ei yrfa deledu fel sgriptiwr â chyhoeddwr gyda BBC Cymru ac yna fel cyhoeddwr gyda HTV Cymru yn 1968, Yn 1972 aeth i weithio tu ôl y llenni, fel rheolwr llawr. Yn ddiweddarach, roedd yn gyfarwyddwr/gynhyrchydd y rhaglen gerddoriaeth Sêr ar HTV Cymru ar ddiwedd y 1970au. Yn 1982 cyfarwyddodd y rhaglen ddogfen Shampŵ, a enillodd wobr Ysbryd yr Ŵyl yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd.
Daeth yn gyfarwyddwr ffilmiau llwyddiannus ac arobryn yn cychwyn gyda'r ffilm Gaucho yn 1984. Sefydlodd gwmni ffilm a theledu Gaucho oedd yn weithgar iawn yn y 1990au.[3]
Yn Mai 2017 derbyniodd Wobr John Hefin am Gyfraniad Oes - cyflwynyd y wobr iddo yng ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin.[4]
Recordiau
- Hiraeth (1974, Albwm Feinyl 12", Recordiau'r Dryw WRL 537)
- Salem (1974, Albwm Feinyl 12", Recordiau Sain 1012M)
- Syrffio Mewn Cariad (1976, Albwm Feinyl 12", Recordiau Sain 1051M)
- Halen Y Ddaear - gyda Injaroc (1977, Albwm Feinyl 12", Recordiau Sain 1094M)
- Dawnsionara (1981, Albwm Feinyl 12", Recordiau Sain 1206M)
- Dilyn Y Graen - casgliad (2001, Albwm 4 CD, Recordiau Sain SCD 2287)
- Deuwedd (2009, Albwm CD, Recordiau Sain SCD 2603)
Ffilmiau
Cyfeiriadau
Dolenni allanol