Ail ferch Harri Tudur ac Elisabeth o Efrog oedd y Dywysoges Elisabeth Tudur (neu Elizabeth Tudor) (2 Gorffennaf 1492 – 14 Medi 1495).[1]
Fe'i ganed ym Mhalas Sheen yn Surrey ac a adeiladwyd yn ddiweddarach gan ei thad a'i alw'n 'Blasdy Richmond', ger Richmond-Upon-Thames, Llundain. Byr oedd ei bywyd, a threuliodd y rhan fwyaf ohono gyda'i brawd Harri a goronwyd mewn blynyddoedd yn Harri VIII, brenin Lloegr, ym Mhalas Eltham, Caint. Addysgwyd y brawd hynaf, Arthur, ar ei ben ei hun yn eu cartref. Cynigiodd ei thad ei phriodi i'r Tywysog Francis a goronwyd ymhen blynyddoedd yn Ffransis I, brenin Ffrainc, ond ni ddigwyddodd hyn.
Marwolaeth
Bu farw ar 14 Medi 1495 wedi dioddef o edwiniad (atrophy) a hithau'n dair blwydd a dau fis. Claddwyd ei chorff ar ochr ogleddol bedd Edward y Cyffeswr yn Abaty Westminster ar ddydd Mercher y 27ain o Fedi. Gwariwyd £318 (£155,479.74 heddiw) ar ei chynhebrwng a chodwyd beddrod marmor iddi. Claddwyd dau arall ger ei hochor ychydig wedyn: Edmwnd (m. 1500 yn 15 mis) a Katherine (m. 1503 ychydig wedi ei geni).
Llinach
Hynafiaid Elisabeth Tudur (1492–1495)
|
|
Cyfeiriadau