Hanodd o deulu dosbarth canol, Catholig. Daeth yn athrawes yn 1922, ac yn dilyn affêr gyda'r Iddew Hermann Heller cafodd blentyn "anghyfrithlon", Cordelia, yn 1929. O ganlyniad i hyn, cafodd ei chardiau o'i swydd dysgu.[7]
Troi at sgwennu
O 1924 ymlaen cyhoeddodd Langgässer farddoniaeth ac adolygiadau. Ar ôl colli ei gwaith fel athrawes trodd at yrfa lenyddol. Ystyriwyd ei hysgrifau fel Naturmagie (lledrith natur), lle'r oedd elfen o hud yn datblygu o fewn y byd o natur. Roedd y symudiad hwn yn gysylltiedig ag ysgrifenwyr a gyhoeddodd yn y cylchgrawn Die Kolonne rhwng 1929 a 1932. Aelodau eraill o fudiad llenyddol Naturmagie oedd Günter Eich, Horst Lange, Peter Huchel, Wilhelm Lehmann ac Oskar Loerke.[8]
Erlyniaeth gan y Natsiaid
Daeth Langgässer yn aelod o'r Reichsschrifttumskammer (Siambr Lenyddol y Reich).[9] Yn 1935 priododd Langgässer â Wilhelm Hoffman a chyda'i gilydd cawsant dair merch. Dosbarthwyd Langgässer fel hanner Iddewes oherwydd perthynas Iddewig ar ochr ei thad o'r teulu. Cafodd ei gwahardd ar sail hil o Siambr Lenyddol y Reich ac apeliodd at Hans Hinkel ym mis Awst 1937 ac yna i Goebbels y Ebrill 1938.
Yn diwedd, fe'i harbedwyd gan ei phriodas â Hoffman. Fodd bynnag, cafodd ei merch, Cordelia, yr oedd ei thad yn Iddew amlwg, ei halltudio yn 15 oed i Theresienstadt ac yna Auschwitz yn 1944. Goroesodd Cordelia yn dilyn cyfnewid carcharorion gwersyll â charcharorion o'r Almaen yn Sweden.
Aelodaeth
Bu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Georg Büchner (1950) .
Cyfeiriadau
↑Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
↑Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, WikidataQ36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014