Elfyn Pritchard |
---|
Ganwyd | 28 Ebrill 1932 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | awdur |
---|
Awdur Cymreig ydy Elfyn Pritchard (ganwyd 28 Ebrill 1932), sy'n dod o Y Sarnau, ger Y Bala. Mae hefyd yn gyn-brifathro ysgol gynradd ac yn ddarlithydd ac yn adolygydd.[1][2]
Bu'n Gadeirydd Panel Plant Cyngor y Celfyddydau ac yn Gadeirydd Panel llyfrau darllen CBAC. Roedd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 1994 ac yn Is-Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau yn Y Bala ym 1997. Mae wedi bod yn olygydd Allwedd y Tannau, Cylchgrawn Cymdeithas Cerdd Dant Cymru am 17 mlynedd. Mae'n aelod o Lys a Chyngor yr Eisteddfod ac yn aelod o'r Orsedd yn dilyn ei lwyddiant yn cipio'r Fedal Ryddiaith yn Ninbych.[2]
Llyfryddiaeth
- Y Gath a Gollodd ei Grwndi (Gwasg Gomer, 1975)
- Cynllun y Porth: Dyddiau Pwysig ar y Fferm (Dref Wen, 1987)
- Yr Eira Mawr a'r Rhew, gyda Emily Huws (Gwasg Gomer, 1989)
- Y Gystadleuaeth, gyda Emily Huws (Gwasg Gomer, 1989)
- Marathon, gyda Emily Huws (Gwasg Gomer, 1989)
- Yr Octopws, gyda Emily Huws (Gwasg Gomer, 1989)
- Y Tân yn y Goedwig, gyda Emily Huws, Cyfres Stori a Chwedl (Gwasg Gomer, 1989)
- Mot (Gwasg Gomer, 1995)
- Fe Ddaeth yr Awr (Gwasg Gomer, 1996)
- Trwy'r Tywyllwch (Gwasg Gomer, 2001)
- Pan Ddaw'r Dydd...? (Gwasg Gomer, 2003)
- Fel Nerthol Wynt (Gwasg Gomer, 2005)
- Cynllun y Porth: Llyfr Athrawon (Gwasg Gomer, 2005)
- Ar Ddannedd y Plant (Gwasg Gomer, 2010)
- Moch Bach Mewn Basged Ddillad, gyda Aeryn Jones (Y Lolfa, 2013)
Gwobrau ac Anrhydeddau
Cyfeiriadau