Eirlys Wyn Jones

Eirlys Wyn Jones
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor, ffermwr Edit this on Wikidata

Nofelydd o ogledd Cymru yw Eirlys Jones (geni 1943).

Cafodd Eirlys ei magu yn Rhos-fawr a'r Ffôr ar y ffin rhwng Llŷn ac Eifionydd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Y Ffôr ac yna Ysgol Ramadeg Pwllheli cyn gadael yr ysgol yn 16 oed.[1] Bu 'n gweithio fel swyddog treth ym Mhorthmadog ac mewn swyddfa cyfrifydd ym Mhwllheli. Mae hi a Griff ei gŵr yn rhieni i dri o blant ac yn Nain a Thaid i wyth. Bu hi a'i gŵr yn ffermio yng nghartref y teulu yn Chwilog nes iddynt ymddeol yn 2017 a dim ond bryd hynny y bu iddi droi at ysgrifennu. Mentrodd anfon ei nofel gyntaf Pwy Ti'n Feddwl Wyt Ti? [2] i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018. Derbyniodd ei hymgais feirniadaeth gadarnhaol gan y beirniaid eisteddfodol, gan hynny cyflwynodd y gwaith i Wasg Carreg Gwalch i'w cyhoeddi.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Eirlys Wyn Jones ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

Cyfeiriadau

Cyfeiriadau

  1. "Annogaeth teulu yn arwain at gyhoeddi nofel gyntaf Eirlys. - Free Online Library". www.thefreelibrary.com. Cyrchwyd 2019-11-13.
  2. Jones, Eirlys (2019). PWY TI'N FEDDWL WYT TI?. Llanrwst: GWASG CARREG GWALCH. ISBN 1845276965. OCLC 1083136548.