Egwyddorion Arweiniol y Cenhedloedd Unedig ar Fusnes a Hawliau Dynol

Egwyddorion Arweiniol y Cenhedloedd Unedig ar Fusnes a Hawliau Dynol
Enghraifft o:cyhoeddiad, moral principle Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi16 Mehefin 2011 Edit this on Wikidata
Prif bwncbusnes a hawliau dynol Edit this on Wikidata

Mae Egwyddorion Arweiniol y Cenhedloedd Unedig ar Fusnes a Hawliau Dynol (neu'n fyr: UNGP; United Nations Guiding Principles on Business and Human Rights) yn offeryn sy'n cynnwys 31 o egwyddorion ac sy'n gweithredu fframwaith "Amddiffyn, Parch a Gwella" y Cenhedloedd Unedig ar fater hawliau dynol a chorfforaethau trawswladol a mentrau busnes eraill. Wedi'i ddatblygu gan Gynrychiolydd Arbennig yr Ysgrifennydd Cyffredinol (SRSG) John Ruggie, darparodd yr Egwyddorion Arweiniol hyn y safon fyd-eang gyntaf ar gyfer atal a mynd i'r afael â'r risg o effeithiau andwyol ar hawliau dynol sy'n gysylltiedig â gweithgaredd busnes, ac maent yn parhau i ddarparu'r fframwaith a dderbynnir yn rhyngwladol ar gyfer gwella safonau ac arferion o ran busnes a hawliau dynol. Ar 16 Mehefin 2011, cymeradwyodd Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yr Egwyddorion Arweiniol hyn yn unfrydol, gan wneud y fframwaith y fenter hawliau dynol corfforaethol cyntaf i gael ei gymeradwyo gan y Cenhedloedd Unedig.[1]

Mae'r UNGP yn cwmpasu tair colofn sy'n amlinellu sut y dylai gwladwriaethau a busnesau roi'r fframwaith ar waith:

  1. Dyletswydd y wladwriaeth i amddiffyn hawliau dynol
  2. Y cyfrifoldeb corfforaethol i barchu hawliau dynol
  3. Mynediad i feddyginiaeth ar gyfer dioddefwyr cam-drin sy'n gysylltiedig â busnes

Mae'r UNGPau wedi derbyn cefnogaeth eang gan wladwriaethau, sefydliadau cymdeithasau sifil, a hyd yn oed y sector preifat, ac mae hyn wedi cadarnhau eu statws ymhellach fel y sylfaen fyd-eang allweddol ar gyfer busnes a hawliau dynol.[2] Gelwir yr UNGP yn anffurfiol yn "Egwyddorion Ruggie" neu "Fframwaith Ruggie" oherwydd eu hawduriaeth gan Ruggie, a'u creodd ac a arweiniodd y broses ar gyfer eu hymgynghori a'u gweithredu.

Hanes

Daeth yr UNGPau o ganlyniad i sawl degawd o ymdrechion y Cenhedloedd Unedig i greu safonau hawliau dynol byd-eang i fusnesau. Yn gynnar yn y 1970au, gofynnodd Cyngor Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig i'r Ysgrifennydd Cyffredinol greu grŵp i astudio effaith corfforaethau trawswladol (TNCs) ar brosesau datblygu a chysylltiadau rhyngwladol. Creodd y Cenhedloedd Unedig y Comisiwn ar Gorfforaethau Trawswladol ym 1973, gyda'r nod o lunio cod ymddygiad corfforaethol ar gyfer TNCs. Parhaodd gwaith y Comisiwn i ddechrau'r 1990au, ond yn y pen draw ni allai'r grŵp gadarnhau cod cytun oherwydd amryw anghytundebau rhwng gwledydd sydd wedi datblygu a gwledydd sydd wrthi'n datblygu.[1] Diddymwyd y grŵp ym 1994.

Daeth y ddadl ynghylch cyfrifoldebau busnes mewn perthynas â hawliau dynol yn amlwg yn y 1990au, wrth i gwmnïau olew, nwy a mwyngloddio ehangu i feysydd cynyddol anodd. Yn deillio o'r pryderon hyn, crëwyd dwy fenter fawr.

Yn Awst 1998, sefydlodd Is-Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hyrwyddo a Diogelu Hawliau Dynol Weithgor ar Gorfforaethau Trawswladol. Yn yr un modd ceisiodd y Gweithgor greu safonau ar gyfer rhwymedigaethau hawliau dynol corfforaethau. Erbyn 2003 roeddent wedi cwblhau drafft terfynol y “Normau ar Gyfrifoldebau Corfforaethau Trawswladol a Mentrau Busnes Eraill o ran Hawliau Dynol” (y Normau).[3] Er bod y Normau wedi derbyn cefnogaeth gan rai cyrff anllywodraethol, megis Canolfan Ewrop-y Trydydd Byd (CETIM) neu Amnest Rhyngwladol, daeth y ddogfen ar draws gwrthwynebiad sylweddol gan y sector busnes, a phenderfynodd y Comisiwn ar Hawliau Dynol yn y pen draw yn 2004 nad oedd gan y fframwaith unrhyw statws gyfreithiol.[4]

Y tair colofn [5]

Dyletswydd y wladwriaeth i amddiffyn hawliau dynol

Colofn gyntaf yr Egwyddorion Arweiniol yw dyletswydd y wladwriaeth i amddiffyn rhag cam-drin hawliau dynol trwy reoleiddio, llunio polisi, ymchwilio a gorfodi. Mae'r golofn hon yn ailddatgan rhwymedigaethau presennol gwlad dan gyfraith hawliau dynol rhyngwladol, fel y nodwyd yn Natganiad Cyffredinol Hawliau Dynol 1948 .[4]

Materion mewn ardaloedd yr effeithir arnynt gan wrthdaro

Dyma faes sydd wedi bod yn destun trafodaethau o dan y golofn gyntaf mewn perthynas â chefnogi parch at hawliau dynol (o ran busnes) mewn ardaloedd yr effeithir arnynt gan wrthdaro o dan egwyddor arweiniol 7. Y mater ymddangosiadol cyntaf gyda'r egwyddor hon yw'r dehongliad o'r term "ardaloedd yr effeithir arnynt gan wrthdaro". Defnyddiwyd y derminoleg hon gan yr SRSG i adlewyrchu'r bwriad i ehangu'r cwmpas egwyddorion y tu hwnt i ddiffiniadau o wrthdaro arfog mewn cyfraith ddyngarol ryngwladol. Wrth ddiffinio cymhwysiad egwyddor 7, rhaid ystyried y ffiniau diffiniad hyblyg y mae'r UNGP, fel offeryn cyfraith, yn eu defnyddio a hefyd natur yr egwyddor sy'n seiliedig ar ganllawiau.[6]

Cyfrifoldeb corfforaethol at barch

Rhaid i fusnesau weithredu gyda diwydrwydd dyladwy (due diligence) er mwyn osgoi torri ar hawliau eraill ac i fynd i'r afael ag unrhyw effeithiau negyddol. Mae'r UNGPau o'r farn bod gan gwmnïau'r pŵer i effeithio ar bron pob un o'r hawliau a gydnabyddir yn rhyngwladol. Felly, mae'r wladwriaeth a'r sector preifat yn gyfrifol am gydnabod eu rôl yn cynnal ac yn amddiffyn hawliau dynol. Wrth gynnal diwydrwydd dyladwy, mae'r UNGP yn annog cwmnïau i gynnal Asesiad Effaith Hawliau Dynol lle maent yn asesu impact (gwirioneddol a phosibl) hawliau dynol.[2]

Ymateb a gweithredu

Mae'r UNGPau wedi mwynhau cefnogaeth eang gan y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac mae sawl cwmni wedi datgan eu cefnogaeth yn gyhoeddus. Er enghraifft, roedd Cwmni Coca-Cola yn "cymeradwyo'n gryf" yr UNGPau, gan eu galw'n "fframwaith sylfaen a hyblyg i gwmnïau fel ni",[7] ac ysgrifennodd General Electric fod yr UNGPs "wedi helpu i egluro rolau a chyfrifoldebau cydberthynol gwladwriaethau a busnes yn y maes hwn ac y "byddent yn gweithredu fel torch gwynias i endidau busnesau sy'n ceisio tyfu eu gwasanaeth, wrth barchu hawliau dynol ".[8][9][10]

Ond mae’r UNGPau wedi wynebu beirniadaeth, yn enwedig gan gyrff anllywodraethol hawliau dynol fel Human Rights Watch, sy’n dadlau bod yma ddiffyg gorfodaeth statudol, ac, “ni ellir ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau wneud unrhyw beth o gwbl. Gall cwmnïau wrthod yr egwyddorion yn gyfan gwbl heb ganlyniad - neu eu cofleidio'n gyhoeddus heb wneud affliw o ddim byd i'w rhoi ar waith mewn modd ymarferol.”[11]

Offeryn sy'n rhwymo'r gyfraith

Er gwaethaf y gefnogaeth gan y sectorau cyhoeddus a phreifat, cwestiynodd rhai rhanddeiliaid a oedd yr UNGPau yn gosod safon ddigon uchel i fusnesau, gan ddadlau y dylai'r sector preifat fod â "rhwymedigaeth" i wireddu hawliau, yn hytrach na "chyfrifoldeb" yn unig. Dadleuodd eraill fod angen mecanwaith atebolrwydd ar yr UNGP a allai wneud y fframwaith yn orfodadwy-gyfreithiol.[4] Ar y llaw arall, mae ei chefnogwyr yn amddiffyn yr UNGPau am greu llawer mwy o gonsensws nag unrhyw ymgais flaenorol i greu safon busnes-hawliau dynol byd-eang.[10][12]

Gorfodaeth

Mater sylfaenol arall a godwyd yw sut y byddai cytundeb o'r fath yn cael ei orfodi, gan ystyried bod gorfodi annigonol yn cael ei amlygu fel prif ddiffyg yr UNGP. Mae Ruggie, yn cwestiynu ai breuddwyd gwrach neu ai breuddwyd ymarefrol fyddai sefydlu llys rhyngwladol ar gyfer corfforaethau, ac a allai gwladwriaethau orfodi cytundeb o'r fath. Yn ei ddadansoddiad, ochrodd Ruggie â'r cyntaf gan dynnu sylw at y ffaith bod gan Wladwriaeth rwymedigaethau eisoes i amddiffyn unigolion rhag torri hawliau dynol o fewn eu tiriogaethau.

Felly er mwyn ychwanegu unrhyw werth newydd, byddai'n rhaid gorfodi cytuniadau gynnwys awdurdodaeth extraterritorial sydd, er eu bod yn cael eu cefnogi gan rai cyrff hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig, yn annerbyniol gan eraill. Mae gwladwriaethau nad ydynt wedi cadarnhau offeryn hawliau dynol craidd y Cenhedloedd Unedig neu ILO yn annhebygol iawn o gefnogi neu orfodi cytundeb sy'n gosod rhwymedigaethau ar weithrediadau tramor eu MNCs.[13]

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Surya Deva, "Guiding Principles on Business and Human Rights: Implications for Companies", European Company Law, Vol. 9, No. 2, pp. 101-109, 2012; University of Oslo Faculty of Law Research Paper No. 2012-10, published 26 Mawrth 2012, accessed 3 Gorffennaf 2012
  2. 2.0 2.1 John Ruggie, "United Nations Guiding Principles on Business and Human Rights" Archifwyd 2013-10-19 yn y Peiriant Wayback, Mawrth 21, 2011, retrieved Gorffennaf 3, 2012 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "ruggie" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  3. U.N. Sub-Commission on the Promotion and Protection of Human Rights, "Norms on the Responsibilities of Transnational Corporations and Other Business Enterprises with Regard to Human Rights", Awst 13, 2003. "", Retrieved Gorffennaf 3, 2012
  4. 4.0 4.1 4.2 The Kenan Institute for Ethics, "The U.N. Guiding Principles on Business and Human Rights: Analysis and Implementation", Ionawr 2012. "", Retrieved Medi 10, 2020
  5. "Policy Report on business and human rights". Universal Rights Group (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-02-10.
  6. Mares, Radu (2014). "Corporate and State Responsibilities in Conflict-Affected Areas". Nordic Journal of International Law 83 (3): 293–346. doi:10.1163/15718107-08303004. http://lup.lub.lu.se/record/d1006de6-4ef5-4437-a8a0-1e4f5802fe09.
  7. Edward E. Potter, Mai 26, 2011, "", Retrieved Gorffennaf 5, 2012
  8. Bob Corcoran, Mai 20, 2011, "", Retrieved Gorffennaf 5, 2012
  9. Hoessle, Ulrike: DOING BUSINESS RIGHT - Five Years of United Nations Guiding Principles on Business and Human Rights Experiences from Early Adopting Companies (=WWS Series 5). Seattle, 2016. ISBN 978-0-9898270-5-8
  10. 10.0 10.1 "Fundraising Consulting - Metropolregion Rhein-Neckar". wwsworldwide (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-21.
  11. Albin-Lackey, Christopher. "Without Rules: A Failed Approach to Corporate Accountability" (PDF). Human Rights Watch. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2018.
  12. Hoessle, Ulrike:The UN Guiding Principles on Business And Human Rights. Context, Content, Implementation and Prioritizing (=WWS Series 3). Seattle, 2013. ISBN 978-0-9898270-2-7
  13. Ruggie, John (28 Ionawr 2014). "A UN Business and Human Rights Treaty?" (PDF). Harvard Kennedy School. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-09-11. Cyrchwyd 2021-04-18.