Roedd Edward H. Dafis yn grŵp Cymraeg oedd yn bodoli o 1973 hyd at 1980.
Rhwng Ionawr 1972 ac Awst 1973, ysgrifennodd Hefin Elis golofn yn Y Faner o dan y ffugenw 'Edward H. Dafis', a phan aeth ati i greu grŵp arloesol Gymraeg, rhoddwyd yr enw hwn iddo. Prif bwrpas y band oedd symud cerddoriaeth Gymraeg oddi wrth y synau gwerinaidd a swynol (oedd yn gyffredin iawn yng ngherddoriaeth Gymraeg y cyfnod) tuag at agwedd mwy swnllyd a chynhyrfus.
Llwyddodd y grŵp i gyfansoddi nifer o ganeuon sydd yn boblogaidd iawn hyd heddiw, fel "Breuddwyd Roc a Rôl", "Smo fi ishe mynd", "Ysbryd y Nos", "'Sneb yn Becso Dam", "Cân mewn Ofer" a "Dewch at eich Gilydd".
Gyrfa
Ffurfiwyd Edward H Dafis gan Dewi Morris o Abertawe, gynt o'r Tebot Piws, a Hefin Elis o Bort Talbot, cyn-aelod o'r Datguddiad, Y Nhw a'r Chwyldro. Ymunodd John Griffiths o Bont-rhyd-y-fen ar y gitâr bas, ac wedyn Charli Britton o Gaerdydd, drymiwr sesiwn gyda Hergest a nifer o grwpiau eraill.
Rhyddhawyd un EP ar Sain ym 1973 ac ymddangosodd un trac, "Can Y Stiwdants" ar yr albwm fyw Tafodau Tân.
Erbyn yr albwm Hen Ffordd Gymreig O Fyw (Sain, 1974) roedd Cleif Harpwood (gynt o Ac Eraill) wedi ymuno fel prif leisydd. Dyma albwm cyntaf Edward H, ac roedd yn garreg filltir yn hanes canu roc a phop Cymraeg.
Roedd Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt O Fyw (Sain, 1975) braidd yn siomedig, ac roedd e'n amlwg bod y grŵp wedi colli ffordd rhywsut, ond roedd 'na uchafbwyntiau, fel cân Dewi Morris "Lisa Pant Ddu".
Mae mwy o hanes y ferch ifanc o gefn gwlad yn cael ei adrodd ar 'Sneb Yn Becso Dam (Sain, 1976). Hon yw record hir gorau'r band heb os nac oni bai. Chwalodd y grŵp ar ôl cyngerdd ffarwel yng Nghorwen ar 11 Medi 1976.
Atgyfodwyd y band ym 1978 mewn cyngerdd yn Nhalybont, a rhyddhawyd Yn Erbyn Y Ffactore (Sain, 1979) sy'n cynnwys y bytholwyrdd "Ysbryd Y Nos".
Erbyn Plant Y Fflam (Sain, 1980) roedd sŵn y band wedi troi braidd yn slic ac yn saff. Penderfynwyd chwalu ar ôl perfformio yn Llanbadarn Roc ar 11 Gorffennaf 1981.
Cyhoeddwyd casgliad o waith y grŵp yn 2005, Edward H Mewn Bocs.