Edward Cullen
|
Cymeriad Twilight |
Pattinson fel Edward Cullen yn y ffilm The Twilight Saga: Eclipse |
Ymddangosiad cyntaf | Twilight |
Crëwyd gan | Stephenie Meyer |
Portreadwyd gan | Robert Pattinson |
Gwybodaeth |
Enw (au) arall | Edward Anthony Masen (enw dynol) |
Rhywogaeth | Fampir |
Rhyw | Gwryw |
Galwedigaeth | Myfyriwr |
Teulu | Edward Masen, Sr. (tad biolegol)
Elizabeth Masen (mam fiolegol)
Esme Cullen (mam fabwysiadol)
Carlisle Cullen (tad mabwysiadol)
Alice Cullen a Rosalie Hale (chwiorydd mabwysiadol)
Jasper Hale ac Emmett Cullen (brodyr mabwysiadol)
Charlie Swan (tad-yng-nghyfraith)
Renée Dwyer (mam-yng-nghyfraith) |
Priod | Isabella Marie Swan |
Plant | Renesmee Carlie Cullen |
Un o'r prif gymeriadau ffuglennol The Twilight Saga, gan Stephenie Meyer, ydy Edward Cullen (gynt Edward Anthony Masen) a chwaraewyd gan Robert Pattinson. Mae'n ymddangos yn y llyfrau Twilight, New Moon, Eclipse a Breaking Dawn yn ogystal â'r ffilmiau addasiad a'r nofel anorffenedig Midnight Sun sy'n ail fersiwn y stori Twilight o safbwynt Edward. Fampir ydy Edward sy'n cwympo mewn cariad, priodi, a chael plentyn gyda Bella Swan - glaslances sy'n dewis dod yn fampir hefyd.
Cymeriadaeth
Yn y llyfrau, mae Bella yn disgrifio Edward fel person swynol, moesgar, penderfynol, a chyndyn iawn. Mae'n amddiffynnol iawn dros Bella. Mae'n gor-ddadansoddi'n aml yn enwedig pan yw e mewn perygl. Mae'n defnyddio iaith wedi dyddio sy'n ei gadw o fywyd Edward yn dechrau'r 20g. Mae Edward yn gweld ei hun fel anghenfil a bu iddo ddymuno i fod yn ddynnol ers iddo gwympo mewn cariad gyda Bella.
Dolenni allanol