Yr economi leiaf o bedair gwlad y Deyrnas Unedig yw economi Gogledd Iwerddon. Yn draddodiadol economi ddiwydiannol oedd hi a seiliwyd ar adeiladu llongau a gweithgynhyrchu rhaffau a thecstiliau, ond erbyn heddiw mae'r sector gwasanaethau'n dominyddu. Cafodd yr Helyntion effaith ddirywiol ar economi Gogledd Iwerddon.