Slang yn yr iaith Japaneg ydy Ecchi (エッチ,etchi, pronounced [et.tɕi]) am ffantasi erotig ac awgrymiadau rhywiol. Fel ansoddair mae'n golygu "budur", "drwg" neu "fochaidd"; fel adferf (ecchi suru) mae'n golygu gwneud rhywbeth drwg neu anweddus fel cysgu efo rhywun; fel enw mae'n golygu person sy'n cael ei ystyried yn ecchi. Mae'n air tebyg i ero, ond nid mor galed a hentai. Yn ol dull rhufeinig Hepburn o sillafu geiriau Japaneeg, y dull cywiro o sillafu'r gair yw etchi, ond y dull amlaf a mwyaf poblogaidd yw ecchi. Nid oes gan ecchi ystyr mor gryf, na mor gwyrdroedig a'r gair 'hentai'.
Does dim golygfeydd o gyfathrach rywiol mewn ecchi, ond mae llawer o luniau 'meddal' e.e. o nicyrs merched. Mabwysiadwyd y gair ecchi gan Ewropeaid i ddisgrifio gweithiau celf ag arlliwiau rhywiol iddynt. Yn niwylliant y gorllewin, mae bellach yn cyfeirio at rywioldeb meddal neu chwareus. Nid yw gweithiau a ddisgrifir fel ecchi gan orllewinwyr yn dangos cyfathrach rywiol nac organau rhywiol, ond cyfeirir at themâu rhywiol. Caiff ecchi ei ganfod yn y mwyafrif o gomedi shōnen a seinen ac anime harem.[2][3]
Yn yr 1960au, roedd y gair yn golygu "rhyw" yn yr ystyr cyffredinol, ond erbyn 1965, roedd hyd yn oed plant oed cynradd yn defnyddio'r gair etchi kotoba am "rhywiol". Yn y 1980au roedd yn golygu caru (etchi suru) (to [make] love).[4][5] Mae debygol i'r gair darddu o symbol cyntaf y gair hentai (変態),[6]
Hanes
Mae'r gair yn perthyn, o ran tarddiad, i Hentai. Yn y 1960au, dechreuodd ieuenctid ddefnyddio'r gair ecchi i gyfeirio at ryw yn gyffredinol. Erbyn yr 1980au, roedd yn cael ei ddefnyddio i olygu rhyw, fel yn yr ymadrodd etchi suru (i gael rhyw).[7][8]
Defnydd
Mae elfennau cyffredin ecchi yn cynnwys sgyrsiau gyda chyfeiriadau rhywiol neu gamddealltwriaeth (e.e. eironi neu ensyniadau), camddealltwriaeth mewn darluniau gweledol (e.e. ystumio awgrymog), dillad dadlennol neu rywiol (e.e. dillad isaf neu cosplay), noethni (e.e. dillad wedi’u rhwygo’n ddarnau, dillad gwlyb, diffyg dillad) a phortread o weithredoedd penodol (e.e. cyffwrdd, gropio sef chikan). Defnyddir y math hwn o rywioldeb yn aml ar gyfer effaith doniol, chwareus. Byddai golygfa enghreifftiol nodweddiadol yn cynnwys prif gymeriad gwrywaidd sy'n baglu dros gymeriad benywaidd, gan arddangos nicyrs y ferch a rhoi peth argraff o aflonyddu rhywiol.[9][3]
↑Mark McLelland (2006). A Short History of 'Hentai'. In: Intersections: Gender, History and Culture in the Asian Context. Cyfrol. 12.
↑Cunningham, Phillip J. (1995). Zakennayo!. Penguin Group. t. 30.
↑"エッチ" (yn Japanese). 語源由来辞典.CS1 maint: unrecognized language (link)
↑Mark McLelland (2006). "A Short History of 'Hentai'Nodyn:-". In: Intersections: Gender, History and Culture in the Asian Context. Cyfr. 12.
↑Cunningham, Phillip J. (1995). Zakennayo!. Penguin Group. t. 30.
↑Jonathan Clements, Helen McCarthy: The anime encyclopedia: a guide to Japanese animation since 1917, Cyfrol 2, Stone Bridge Press, 2006, Prifysgol California, ISBN1-933330-10-4, tud. 30