Bardd, llenor a gweinidog gyda'r Bedyddwyr oedd Ernest Llwyd Williams (12 Rhagfyr 1906 – 17 Ionawr 1960). Roedd yn gyfaill agos i Waldo Williams.
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Rhyl 1953 am Y Ffordd a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ystradgynlais 1954 am Y Bannau. Ef oedd awdur y ddwy gyfrol Crwydro Sir Benfro yng ngyfres Crwydro Cymru.