Dyddiaduron Owen Hughes, Tregwehelyth, Bodedern, Ynys Môn

Bywgraffiad

Mae'r oll o gynnwys y bywgraffiad isod wedi ei gymryd o ysgrif perthynas i'r dyddiadurwr Enid Gruffudd a gyhoeddwyd mewn cyfrol o'r un enw a'r dudalen hon a gyhoeddwyd i gylch cyfyng yn 2018 gan Wasg y Lolfa[1]. Codwyd y testun o broflen a ddarparwyd yn garedig gan y wasg. Dangosir yr holl gofnodion amaethyddol, ffenolegol a meterolegol yn y fan hon [1] wrth iddyn nhw gael eu llwytho i'r Tywyddiadur (Llen Natur). Ar waith.

Teulu

Nid wyf wedi cael y fraint o adnabod Taid Tregwehelyth na nain ar ochor fy mam nac ychwaith fy nhadcu a’m mamgu ar ochor fy nhad ac ystyriaf hyn yn golled fawr, ond mae ambell ddrws yn agor a dyma fi wedi derbyn dyddiaduron fy nhaid yn ôl ar ôl iddynt fod ar goll yn Sir Fôn am tua 20 mlynedd. Dyma fi felly yn torchi fy llewys ac yn dechrau ar y gwaith anferthol o’u teipio er mwyn eu gwneud yn ddarllenadwy. Mae’n dipyn o dasg, ac er nad yw’r gyfres yn gyflawn mae yna 39 ohonynt a does gen i mo’r gras na’r amynedd I fynd drwy’r cyfan i gyd, ond rwyf wedi cael cip ar fywyd y teulu ac rwy’n ceisio ei gyfleu yma er gwybodaeth i’r cenedlaethau i ddod gan obeithio y bydd ganddynt ddiddordeb. Bydd y teulu yma yn hen, hen, hen daid a nain wrth gwrs ac yn un pâr o niferoedd a fydd yn olrhain yr un berthynas, ond rwy’n gwneud fy ngore. Mae cymeriad Nain yn cael ei amlygu drwy ei habsenoldeb o’r sylwadau dyddiol. Prin iawn yw’r adegau mae hi’n mynd allan gyda’r nos a hynny ond i gyfarfodydd yn ymwneud â’r capel. Mae hi’n cael cyfle i ymwneud â’i theulu ei hun o bryd i’w gilydd, ac â’i chwiorydd yn y Benllech. Mae’n debyg ei bod yn cerdded o Dregwehelyth i Benllech i’w gweld a hwythau ill dwy yn gweithio’n galed yn cadw rhyw holwth o dy fisitors mawr. Roedd i fy nain natur hipiaidd a byddai’n gwisgo dillad ysgafn cotwm yn y Gaeaf ac yn amal yn droednoeth o gwmpas y lle, tra byddai fy mam ar y llaw arall yn ffafrio dillad gwlanen Pandy Llywenan. Roedd hi’n ddynes hardd iawn, yn denau ac yn dywyll, ac roedd fy mam a Jane fy nghyfnither yn debyg iawn iddi. Rydw i’n dal i fynnu fod cysylltiad rhyngddi hi â Meddygon Esgyrn Môn. Mae hwnnw’n faes ymchil arall. Gweithiodd yn galed a rhoddodd enedigaeth i saith plentyn, dau ohonynt yn marw o fewn misoedd i’w genedigaeth. Cafodd broblemau mawr gyda’i mab William wedyn. Mae peth o hyn yn cael ei gofnodi yn y dyddiaduron, a bu’n rhaid iddo gael ei ymgeleddu yn Ysbytŷ’r Meddwl yn Ninbych, ond yr oedd hynny ar ôl ei dyddiau hi. Roedd hi yn benderfynol o ofalu amdano tra medrai. Nid oedd yn ddynes iach, ac ynghyd â magu pump o blant byddai’n cael pyliau cyson o boenau stumog a thaflu i fyny annioddefol, a rhaid oedd cael y meddyg ati ar unwaith. Yr unig feddyginiaeth wnai y tro oedd chwistrelliad o morphine. Tybed, tybed âi’r cyffur hwnnw oedd gwraidd ei salwch, a’i bod yn dioddef cyflwr o wrthgiliad ar ôl bod hebddo am sbel. A oedd hi’n gaeth i morphine?! Roedd fy nhaid yn garedig iawn wrthi ac yn gonsyrniol iawn am ei chyflwr. Aeth â hi i Lerpwl i weld os oedd modd cael rhyw esboniad ar y salwch, ond hyd y gwela i ni allodd neb esbonio’i gwaeledd.

Y Ffermwr a'r Siopwr

Roedd Owen Hughes yn ddyn prysur dros ben. I ddechrau gweithiai mewn siop ddrygist yn Llannerchymedd tra’n byw ym Mhen y Bryn. Teimlai hynny’n gaethiwed arno ac yntau ag anian bod allan yn yr awyr iach. Dechreuodd ei yrfa amaethyddol drwy brynu a gwerthu anifeiliaid hwnt ag yma gan rentu rhai caeau. Yna llwyddodd i rentu Wilpol pan 26 oed a thrwy hynny allu rhentu peth tir ynghlwm â’r tyddyn. Crefydd ac astudio’r Beibl oedd ei brif ddiddordeb a darllenai esboniadau a chofiannau pregethwyr di-ben draw. Mynychodd ysgol Mr Davies lle bu’n astudio Groeg, Lladin, Saesneg ac Euclid. Roedd hyn yn llwyr allan o gysylltiad âg ymarferoldeb amaethu yn Sir Fôn, ond bod yn bregethwr oedd ei uchelgais a materion ysbrydol ei wir ddiddordeb. Os na fyddai’n pregethu byddai’n gwrando’n ddeallus ar bregethwyr eraill a chanddo farn hynod dreiddgar ar eu cenadwri. Ef a arweiniai y seiadau a’r cyfarfodydd gweddi yn y Capel Bach, gan gychwyn yn amal gyda’r geiriau o ddiolch i’r Arglwydd “fod ein llinynnau wedi disgyn ar leoedd mor hyfryd” ond yn ddiffael byddai’n rhaid cofnodi mai ychydig oedd yn bresennol. “Cynulliad bychan” oedd hi fel arfer. Cenadwri arall ganddo oedd dirwest a chyfarfodydd dirwestol. Mae’n cofnodi iddo dorri un truan allan o’r seiat oherwydd medd-dod. Symudodd i’r Wilpol yn 26 oed. Peth tir yno. Dechrau gyda’r tyddyn ar rent wrth gwrs. Daliodd ati i borthmona a phrynu a gwerthu anifeiliaid. Cerdded yr anifeiliaid o le i le a mynychu ffeiriau. Symudodd i Brynteiran ac yna i Tregwehelyth, fferm ar rent eto, a dyna ble treuliodd y rhan fwyaf o’i oes. Ceisiai ei addysgu ei hun gan fanteisio ar bob cyfle. Dihangodd i Ysgol Haf yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth i drafod a chyd-rannu egwyddorion crefyddol er fod hynny ynghanol tymor cynhaeaf gwair. Bu Dyddiaduron Cyflawn Gwyn Ddewi 2016.doc 16/07/2019 tud .2 yng ngholeg Bangor wedyn yn dilyn cwrs ar fesur tir ac amaethyddiaeth, lle dysgai ychydig gemeg a gwybodaeth am wrteithio a gwella’r tir.

Y Pregethwr

Teithiai ar ei feic i’w gyhoeddiadau gan bregethu mewn capeli annibynnol ar draws Sir Fôn, weithiau sir Gaernarfon ac ymhellach. Weithiau byddai’n teithio ar ei feisycl yn ôl ac ymlaen mewn diwrnod, gan aros noson ar adegau eraill. Byddai hyn yn fwrn mawr arno gan ei fod yn gweithio mor galed fel ffarmwr ac yn wir yn wir credaf ei fod angen y Sul i orffwyso. Os na fyddai’n pregethu ei hun byddai’n gwrando yn ddeallus ar bregethwyr eraill gyda barn bendant ar eu galluoedd yn y pulpud, gwae nhw os nad oeddynt yn plesio. Roedd hefyd yn ysgrifennu erthyglau i’r papurau ac yn barddoni rhyw gymaint, heb sôn am drefnu ac arwain cyfarfodydd dirwest hwnt ag yma. Roedd hefyd yn bwyllgorddyn ac yn aelod o’r cynghor plwyf lleol ac yn ddiweddarach yn aelod o Gyngor Sir Môn. Mae’n cyfaddef mewn u od pwyllgor cynghor sir wedi para pump awr.

Hamddena

Sylwer nad oedd dim llawer o amser i chwarae n man f gyda’r plant na thalu sylw i orchwylion domestig yn yr amserlen hon. Mae’n rhestru rhai pleserau prin fel hel mwyar duon, drochi yn y môr, cymanfa ganu neu Eisteddfod ond prin iawn iawn yw’r pleserau hyn. Mae llawer mwy o sôn am flino a mân orchwylion diddiwedd yn y dyddiaduron tua diwedd ei oes. Mae’n amlwg iddo gyflawni llawer fel pregethwr, cynghorydd sir, ffarmwr ac ysgolhaig ddwedwn i, ond dyn teulu ie...wel...

Cyfeiriadau

  1. Gruffudd, E. (2018) Dyddiaduron Owen Hughes, Tregwehelyth, Bodedern, Ynys Môn (Gwasg y Lolfa)