Dydd Sul y Pasg

Crist yn atgyfodi ar Sul y Pasg

Dydd Sul y Pasg yw'r diwrnod yr atgyfododd Iesu Grist, yn ôl Cristnogion. Croeshoeliwyd ef ar Ddydd Gwener y Groglith a'r dydd Sul dilynol, ymwelodd ei fam a Mair Fadlen y bedd, gan ei ddarganfod yn wag, yn ôl Ioan. Dywed y disgybl Mathew fod angel yn bresennol yn yr ogof. Mae'r diwrnod hwn yn rhan o wythnos y Pasg. Y Dydd Sul blaenorol yw Sul y Blodau.

Dyma diwrnod cyntaf y cyfnod a elwir yn Eastertide neu Paschaltide (Tymor y Pasg), gŵyl sy'n parhau tan y Sulgwyn, cyfnod o 7 wythnos. Yr wythnos gyntaf wedi Dydd Sul y Pasg yw 'Wythnos y Pasg' (yng Nghristnogaeth y Gorllewin) ac 'Wythnos Pascha' (yr un gair â 'Pasg') yng Nghristnogaeth y Dwyrain. Dethlir yr Atgyfodiad o'r Sul hwn am weddill yr wythnos. Ceir nifer o draddodiadau sy'n parhau hyd heddiw yn ystod yr wythnos hon, gan gynnwys Cyfarchiad y Pasg ("Cododd Crist!") ac addurno wyau Pasg.

Yn yr 20g gwnaeth nifer o unigolion a sefydliadau eglwysig nifer o geisiadau i sefydlogi'r Pasg i'r un diwrnod pob blwyddyn, a'r cais cryfaf oedd y dylai'r Pasg ddisgyn ar y Dydd Sul wedi'r ail Sul yn Ebrill. Hyd yma (2016) nid yw'r argymhelliad hwn wedi ei wireddu.[1]

Cyfeiriadau

  1. "Easter (holiday)". Encyclopædia Britannica Online. Encyclopædia Britannica. Cyrchwyd 9 Mawrth 2013.