Dream AllianceEnghraifft o: | ceffyl |
---|
Roedd Dream Alliance (23 Mawrth 2001 – 21 Ebrill 2023) yn geffyl rasio. Roedd y ceffyl yn eiddo i'r Alliance Partnership ac wedi'i hyfforddi gan Philip Hobbs.[1]
Cafodd y ceffyl Dream Alliance ei fridio gan Janet Vokes o dde Cymru.[2] Tra'n gweithio mewn tafarn leol,[3] clywodd Howard Davies, cynghorydd treth lleol, yn trafod ceffyl rasio yr oedd unwaith yn berchen arno fe. Gyda’i gŵr, Brian, roedd hi'n ffeindio gaseg o’r enw Rewbell a oedd ar gael am £1000, yn rhannol oherwydd anaf[3]. [4] Yn y pen draw fe brynon nhw hi am £350 ac enwi Davies fel "rheolwr rasio" y grŵp. [2]
Ganed yr ebol Dream Alliance yn 2001.[3] Magwyd y ceffyl ar randir yng Nghefn Fforest ger tref Coed Duon, ac ymunodd 23 o bobl â’r syndicet perchnogaeth. Trefnwyd y syndicet gan Davies, a amcangyfrifodd y byddai’n costio £15,000 y flwyddyn i gadw’r ceffyl dan hyfforddiant. [4]
Yn dair oed, daeth Dream Alliance at Philip Hobbs i gael hyfforddiant, ar ôl i'r syndicet godi digon o arian i dalu'r costau hyfforddi. Yn 2004, daeth yn bedwerydd yn ei ras gyntaf. Mewn ras baratoadol ar gyfer y Grand National yng Ngŵyl Aintree yn 2008, fe dorrodd tendon ar y cwrs. [4] Roedd angen triniaeth bôn-gelloedd newydd iawn ar gyfer y driniaeth, ond yn y pen draw fe wellodd a llwyddodd i rasio eto. [3] Roedd ei enillion yn ddigonol i dalu costau ei lawdriniaeth a 15 mis o adsefydlu.9. [4]
Enillodd y ceffyl Bencampwriaeth Genedlaethol Cymru 2009, gyda Tom O'Brien yn ei farchogaeth. Ar ôl colli'r Grand National, canfuwyd bod ganddo gyflwr ar yr ysgyfaint. [4] Er iddo redeg mewn saith ras arall, ni enillodd eto.[1] Roedd wedi ymddeol yn 2012. [4]
Ar y cyfan, enillodd Dream ALliance £138,646 mewn arian gwobr.[1] Ar ôl talu'r holl gostau hyfforddi a milfeddygol, gan gynnwys costau ei lawdriniaeth, cafodd y 23 aelod o'r syndicet elw yr un o £1430. [4]
Bu farw Dream Alliance ar 21 Ebrill 2023, yn 22 oed. [5]
Cyfeiriadau