Dosbarth Safonol 9F Rheilffordd Brydeinig

92214

Mae Dosbarth Safonol 9F Rheilffordd Brydeinig yn fath o Locomotif stêm 2-10-0 cynlluniwyd gan Robert Riddles yn Brighton[1] yn ystod y 1950au ar gyfer trenau nwyddau.

Gweithiodd y locomotifau cynharaf o 1954 ymlaen. Pwysau’r locomotifau oedd 86 tunnell, 14 canbwys, a’r tendar dros 50 tunnell, er oedd amrywiaeth rhwng locomotifau gwahanol y dosbarth. Adeiladwyd 251 o locomotifau, 53 yn Swindon a 198 yng Nghryw. Roedd gan rhai o’r dosbarth gyfarpar ychwanegol; Roedd gan 10 ohonynyt, adeladwyd ym 1955, boeler Franco-Crosti. Tryfesur yr olwynion gyrru oedd 5 troedfedd, a physau’r boeler 250 pwys i’r modfedd sgwâr. Roedd ganddynt 2 silindr a gêr falfiau Walschaerts. Roedd gan rhai o’r dosbarth gyfarpar ychwanegol; roedd gan rhai o’r dosbarth simne ddwbl, rhai ohonynt taniwr peiriannol, rhai ohonynt alldaflwr hirsgwar Giesl a rhai ohonynt cywasgwr awyr Westinghouse.[2]

Evening Star, rhif 92220, oedd y locomotif stêm olaf adeiladwyd gan Rheilffordd Brydeinig. Gwelir 92220 yn yr Amgueddfa Genedlaethol Rheilffordd yn Efrog yn arferol, er bod o'n mynd i reilffyrdd treftadaeth bob hyn a hyn.


Cyfeiriadau