Dorothy Miles |
---|
Ganwyd | Dorothy Squire 19 Awst 1931 Treffynnon |
---|
Bu farw | 30 Ionawr 1993 Lloegr |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | - Prifysgol Gallaudet
|
---|
Galwedigaeth | bardd, llenor |
---|
Roedd Dorothy "Dot" Miles (19 Awst 1931 – 30 Ionawr 1993; ganwyd Squire) yn fardd ac actifydd o Gymru yn y gymuned fyddar Trwy gydol ei hoes, cyfansoddodd ei cherddi yn Saesneg, Iaith Arwyddion Prydain, ac Iaith Arwyddion America. Roedd hi'n arloeswr barddoniaeth BSL a dylanwadodd ei gwaith ar lawer o feirdd Byddar cyfoes.[1]
Cafoff Miles ei geni yn Holywell, Sir y Fflint, yn ferch i James ac Amy Squire (ganwyd Brick). Roedd hi'r ieuengaf o bump o blanti. Ym 1939, cadawodd hi ei fyddar oherwydd salwch. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frenhinol y Byddar ac Ysgol Mary Hare. Ym 1957, aeth hi i'r Unol Daleithiau i gymryd lle yng Ngholeg Gallaudet. Yn ystod ei chyfnod yn y coleg, roedd hi'n golygodd gylchgronau'r myfyrwyr; enillodd gwobrau am ei hysgrifennu rhyddiaith a'i barddoniaeth ac am actio. Cyhoeddwyd peth o'i gwaith yn The Silent Muse, blodeugerdd o ysgrifau dethol gan awduron byddar y 100 mlynedd diwethaf.[2]
Priododd â chyd-fyfyriwr, Robert Thomas Miles, ym mis Medi 1958, ond fe wnaethant wahanu ym 1959. Graddiodd ym 1961 gan dderbyn BA gyda rhagoriaeth. Gweithiodd yn yr Unol Daleithiau fel athrawes a chynghorydd i oedolion byddar. Yn 1967, ymunodd â Theatr Genedlaethol y Byddar a oedd newydd ei sefydlu a dechreuodd greu barddoniaeth iaith arwyddion y gallai pobl fyddar ei gwerthfawrogi.[3] Yna dychwelodd i'r Deyrnas Unedig, lle daeth yn aelod allweddol o Gymuned Fyddar Prydain. Yn yr 1990au, roedd Miles yn dioddef o iselder manig. Yn 1993, cyflawnodd hi hunanladdiad trwy ddisgyn o ffenestr.
Cyfeiriadau