Dominiciaid |
|
Enghraifft o: | urdd cardod, yr urdd cyntaf, sefydliad |
---|
Rhan o | Dominican Family |
---|
Dechrau/Sefydlu | 1216, 1215 |
---|
Prif bwnc | lifestance organisation |
---|
Yn cynnwys | mynach dominicaidd, Province of Hispania of the Order of Preachers, Polish Dominican Province, Czech dominican province, Dominican Province of Slovakia, Croatian Dominican Province, Dominican Province of Our Lady of the Rosary, Q116944295, province dominicaine de France, province dominicaine de Toulouse |
---|
Pennaeth y sefydliad | Master of the Order of Preachers |
---|
Sylfaenydd | Sant Dominic |
---|
Isgwmni/au | Nuns of the Order of Preachers |
---|
Pencadlys | Basilica of Saint Sabina |
---|
Gwladwriaeth | yr Eidal |
---|
Gwefan | http://op.org/, https://www.osservatoredomenicano.it/, https://www.dominicos.org/ |
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Urdd mynachol yn perthyn i'r Eglwys Gatholig yw Urdd y Pregethwyr (Lladin: Ordo Praedicatorum sef "Urdd y Pregethwyr"), yn fwy adnabyddus fel y Dominiciaid neu Urdd y Dominiciaid. Sefydlwyd yr Urdd gan Sant Dominic yn nechrau'r 13g.
Gelwir y Dominiciaid "y Brodyr Duon" weithiau, oherwydd eu bod yn gwisgo clogyn neu cappa du. Defnyddia aelodau'r urdd y llythrennau O.P. (Ordinis Praedicatorum) ar ôl eu henwau.
Cymru
Mae un o'r Brodyr Duon Cymreig yn gymeriad mewn cerdd gan Dafydd ap Gwilym. Mae'r Brodyr hyn yn atgas gan Ddafydd:
- Duw a ŵyr, synnwyr a sôn,
- Deall y brodyr duon!
- Y rhain y sydd, ffydd ffalsddull,
- Ar hyd yr hollfyd yn rhull,
- Bŵl gwfaint, bobl ogyfoed,
- Bob dau dan yr iau erioed.[1]
Mae'r mynach yn rhybuddio'r bardd i ddiwygio ei hun a pheidio a'i gerddi serch a hel merched neu wynebu poenau Uffern ond mae Dafydd yn ateb yn herfeiddiol mae rheitiach i ddyn lawenhau a charu na bod yn drist a chwerw.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ Thomas Parry (gol.), Gwaith Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, ail argraffiad 1963), cerdd 138 'Rhybudd Brawd Du', llau. 3-8.
- ↑ Gwaith Dafydd ap Gwilym, cerdd 138 'Rhybudd Brawd Du', llau. 28-34.