Maenordy carreg o'r 16g yw Dolbelydr, a chartref Harri Salbri (hefyd Henry Salesbury; 1561- c.1605) awdur Grammatica Britannica. Mae'r adeilad yn gorwedd yn nyffryn bychan arger Afon Elwy, wedi'i amgylchynu gan gaeau gwyrdd tua 2 km i'r gorllewin o Drefnant, Sir Ddinbych yng nghymuned Cefnmeiriadog. Yn wreiddiol roedd yn dŷ o gryn statws wedi'i godi o galchfaen trwsiadus, gyda simneiau tal a solad, ei risiau sbeiral a'i simneiau tal ar y talcenni. Ar wahân i bolyn trydan neu ddau, nid yw'r olygfa i lawr y dyffryn wedi newid dim, ers y pum can mlynedd diwethaf.
Dadansoddwyd pren mewnol y tŷ gyda dulliau 'dendro-cronoleg' a dulliau eraill i 1578. Gorffenwyd y gwaith adfer yn 2003.
Mae cynllun y tŷ'n arloesol gyda'i gyntedd petryal a'i sgrin estyll a mwntin. Dirywiodd statws Dolbelydr yn ystod y canrifoedd dilynol, o bosib oherwydd ei leoliad diarffordd, y ffordd gul a throellog ato a'i faint ac erbyn 1912 roedd yn wag. Fe'i prynnwyd yn 1982 gan y Landmark Trust a sylweddolodd arwyddocad fel un o 'dai coll Cymru'. Erbyn hynny roedd y to wedi dymchwel a'r sgrin solar wedi'i symud i Gaer, lle mae hyd heddiw.[1][2][3]
Mae'r llawr llechen yn cynnwys llawer o'r llechi gwreiddol a cheir waliau mwnol o blethwaith a chlai yn hytrach na phlastr calch mwy arferol, a dyna a ddefnyddiwyd pan adferwyd y ty yn y 1990au a blynyddoedd cynnar y 2000au.
Henry Salesbury
Ychydyg iawn a wyddom am Henry Salesbury, ar wahân i'r ffaith ei fod yn aelod o deulu pwerus y Salesbriaid, tirfeddianwyr cyfoethog yn ardal Dyffryn Clwyd.
Argraffwyd y Grammatica Britannica yn Llundain yn 1593.
Prif gartre'r Salbriaid oedd Lleweni ac roedd ganddynt gysylltiad agos gyda Galltfaenan.
Oriel luniau
Y tu allan
Lleoliad, a'r lôn gul a grewyd yn gymharol ddiweddar.